Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Medi 2011

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Ffermwyr Ifanc

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol CFfI Cymru yng nghanolfan y Mileniwm Caerdydd ar ddydd Sadwrn y 1af o Hydref, yn ystod penwythnos Glas y Mudiad wedi ei noddi gan Goleg Reaseheath.

Hwn fydd digwyddiad cyntaf blwyddyn y CFfI ac fe fydd aelodau o bob cwr o Gymru yn mynychu’r digwyddiad am benwythnos llawn busnes a phleser.

Bydd penderfyniadau yn cael eu gwneud yng nghartref rygbi Cymru yn ystod cyfarfodydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, Is-Bwyllgorau a Chyngor CFfI Cymru.

Walkabout bydd yn gwesteio digwyddiadau nos Wener lle bydd aelodau CFfI a’u bandiau, Hufen Ia Poeth a Soul’d Out yn diddanu’r rhai a fydd yn bresennol yn ystod Parti Cwpan y Byd y CFfI. Thema’r gwisg ffansi ar gyfer y noson bydd gwledydd y byd. Bydd parti ecslwsif ar gyfer aelodau CFfI yn cymryd lle yn ystafelloedd Monte Carloe a Wakyama ar y noson Sadwrn, gyda’r parti yn ymuno gyda’r prif glwb yn hwyrach yn ystod y nos.

Mae aelodau o Macra, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr hefyd wedi derbyn gwahoddiad i ymuno yn yr hwyl.

Yn siarad ar ran noddwyr y penwythnos, dywed Meredydd David, Pennaeth Coleg Reaseheath: “Mae Reaseheath yn falch iawn o’r cyfle i gefnogi CFfI Cymru. Edrychwn ymlaen at gryfhau’r cysylltiadau gyda’r diwydiant amaeth yng Nghymru drwy weithio gyda’r ffermwyr ifanc sef y dyfodol.”

Ychwanegodd Cadeirydd CFfI Cymru, Enfys Evans: “Mae CFfI Cymru yn edrych ymlaen at ddigwyddiad cyntaf blwyddyn aelodaeth 2011-12. Rydym yn dychwelyd i Gaerdydd 10 mlynedd ers i’r digwyddiad gael ei gynnal yno diwethaf a gobeithiwn y bydd aelodau o bob cwr o Gymru yn mynychu er mwyn lleisio eu barn ac i ddweud eu dweud mewn cyfarfodydd amrywiol a dathlu’r flwyddyn newydd min nos. Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i gynnal y cyfarfodydd yn Stadiwm y Mileniwm yn ystod blwyddyn dathlu 75 mlynedd o CFfI Cymru.”
 

Rhannu |