Mwy o Newyddion
Mŵs Piws yn ennill gwobr Great Taste
Mae bragdy yng Ngogledd Cymru yn dathlu ar ôl ennill un o ‘r prif wobrau yng ngwobrau’r Great Taste.
Rhagorodd cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru ar y nifer o wobrau a enillwyd y llynedd drwy ennill mwy na 100 o wobrau aur tair, dwy ac un seren yn y gystadleuaeth a drefnir gan y Guild of Fine Food Retailers.
Derbyniodd y cwmnïau buddugol eu gwobrau yn seremoni wobrwyo Great Taste, a gynhaliwyd yn y Royal Garden Hotel fel rhan o’r Speciality & Fine Food Fair yn Olympia, Llundain.
Derbyniodd Bragdy Mŵs Piws Cyf y wobr am y cynnyrch arbenigol gorau o Gymru, a noddir gan Lywodraeth Cymru.
Enillodd y bragdy'r teitl gyda’i gwrw tywyll Dark Side of the Moose, sydd yn 4.6% ABV.
“Rydym yn falch iawn i dderbyn y wobr yma,” meddai Lawrence Washington, rheolwr gyfarwyddwr a bragwr Mŵs Piws.
Bu hon yn flwyddyn lwyddiannus iawn i Dark Side of the Moose, ar ôl ennill cymeradwyaeth yn yr Her Gwrw Ryngwladol yn ogystal ag yng ngwobrau ‘Oscar’ y byd bragu - Gwobrau Rhyngwladol y Diwydiant Bragu.
Dywedodd Mr Washington, “Fe wnes i gynllunio Dark Side of the Moose i fy chwaeth fy hun a dyma fy nghwrw delfrydol, felly rwy’n wirioneddol falch ei bod yn ymddangos fod pobl eraill yn meddwl ei fod yr un mor dda.”
Meddai Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd a Physgodfeydd, “Rwyf wrth fy modd gyda’r nifer haeddiannol o wobrau a enillodd cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru. Hoffwn hefyd longyfarch Bragdy Mŵs Piws hefyd, ac mae’n sicr y bydd gwobr y cwmni yn helpu i gynyddu proffil cwrw o Gymru yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.”
Cymerodd mwy na 20 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru ran yn y Ffair dan fantell brand Cymru y Gwir Flas Llywodraeth Cymru, a derbyniodd y stondin bron 900 o ymholiadau gan ymwelwyr masnach yn y digwyddiad.
Llun: Y ffair fwyd yn Olympia, Llundain