Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Medi 2011

Cyfarwyddwr cerdd newydd

Mae Eisteddfod Rhyngwladol Cerddorol Cymru yn falch o gyhoeddi eu bod wedi apwyntio Eilir Owen Griffiths, yr arweinydd a'r cyfansoddwr llwyddianus, fel eu Cyfarwyddwr Cerdd newydd yn dilyn Mervyn Cousins a wnaeth adael i gymeryd swydd uwch gyda Bwrdd Cysylltiedig Coleg Cerdd Frenhinol.

Mae Mr Griffiths, sy'n 30 oed ac yn frodor o Ddimbych, yn diwtor / trefnydd diwlliannol ym Mhrifysgol Coleg y Drindod, yng Nghaerfyrddin, lle mae o, yn ogystal â darlithio, hefyd yn cyfarwyddo eu cynhyrchiadau sioeau cerdd, yn athro canu, ac efe sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Artistig i “GWYL! Gelfyddydau'r Drindod”. Mae e'n fwy adnabyddus efallai drwy Gymru fel Cyfarwyddwr Cerdd Côr CF1 a Chôr Godre'r Garth, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn dan ei arweiniad.

Yn ogystal â'i waith yng Nghymru mae gan Eilir gysylltiadau rhyngwladol cryf iawn yn, yn enwedig yng Ngwlad Pwyl a Gogledd America, ac efe sefydlodd Gwobr Llais Ryngwladol Stuart Burrows.

Dywedodd Eilyr: " Mi rydw i yn edrych ymlaen yn arw at y sialens o gynnal a hyrwyddo y safonau uchel sydd gan Eisteddfod Llangollen, ac mi rydw i yn arbennig o awyddus i godi cyfraniad yr ifanc yn yr wyl arbennig yma.

Dywedodd y Cadeirydd Phil Davies: " Rydym wrth ein boddau gyda'r apwyntiad newydd yma o Gymro ifanc sydd wrth galon a gwraidd cerddoriaeth yng Nghymru, ond sydd hefyd gyda gwelediaeth ryngwladol sydd yn ei arfogi'n dda ar gyfer y dasg o gymryd Eisteddfod Llangollen ymlaen i'r dyfodol."
 

Rhannu |