Mwy o Newyddion
Canolfan Gymraeg Wrecsam angen buddsoddwyr
Mae'r fenter gydweithredol sy'n bwriadu agor Canolfan Gymraeg yng nghanol Wrecsam am gynnal cyfarfodydd cyhoeddus yn hen dafarn y Saith Seren (Seven Stars) ar Stryd Caer.
Y bwriad, yn ôl cadeirydd y fenter y Cynghorydd Marc Jones, ydi dangos i fuddsoddwyr yn y fenter cystal lle ydi'r adeilad.
Dywedodd: "Roedden ni'n bryderus fod y bragdy am roi'r adeilad mewn ocsiwn ar fyr rybudd ac felly wnaethon ni ddod i gytundeb efo Cymdeithas Tai Clwyd Alyn iddyn nhw brynu'r adeilad ar ein rhan ni. Byddwn yn lesio fo yn y tymor byr gyda'r bwriad o'i brynu yn y dyfodol.
"Y bwriad ydi agor canolfan sy'n gaffi/bar yn ystod y dydd, yn cynnig cynnyrch lleol a Chymreig, yn dafarn mwy traddodiadol gyda'r nos ac yn cynnig swyddfeydd a stafelloedd cyfarfod fyny grisia.. Rydan ni'n siarad efo tenantiaid posib i'r swyddfeydd yn barod. Mi fyddai adloniant Cymraeg (a Chymreig) yn rhan bwysig o'r atyniad.
Man cychwyn y fenter oedd cnewyllyn o bobl yn teimlo fod angen gwneud mwy i normaleiddio'r iaith Gymraeg yn Wrecsam, er mwyn ei wneud yn iaith gymunedol a chymdeithasol yn y dre a'r cylch ehangach. Mae 12,000 o siaradwyr Cymraeg yn Wrecsam gyda llawer mwy yn dysgu ac yn danfon eu plant i ysgolion Cymraeg. Er bod twf yn nifer yn mynd drwy'r system addysg Gymraeg, mae yna brinder cyfleon iddyn nhw siarad yr iaith y tu allan i'r ysgol a'r cartre.
Dywedodd Marc Jones: "Roedd o'n debyg iawn i mi tra'n tyfu yn yr Wyddgrug yn y 70au ond bryd hynny roedd nosweithiau yn y Pafiliwn yng Nghorwen neu Dixieland Rhyl yn fodd i dynnu rhywun i mewn i ddiwylliant Cymraeg 'cwl'. Dwi'm yn gweld yr un cyfleon i'm mhlant i heddiw ac, wrth gwrs, mae'n anoddach fyth i blant o aelwydydd di-Gymraeg."
Mae'r fenter wedi paratoi cynllun busnes manwl ar gyfer Clwyd Alyn cyn iddynt brynu ac wedi cael cymorth gan Ganolfan Gydweithredol Cymru a chael rheolwr prosiect profiadol wrth y llyw. Mi fydd Clwyd Alyn yn gyfrifol am welliannau i'r adeilad ond bydd angen i'r fenter ariannu gwelliannau a thrwsio tu mewn, yn ogystal â sicrhau digon o gyfalaf ar gyfer cynnal y busnes yn y misoedd cyntaf. Y gobaith bellach ydi agor dechrau Rhagfyr ond cyn hynny bydd angen codi tua £60,000 - mae £17,000 yn y banc hyd yma a mwy wedi ei addo.
Y lleiafswm y gall unrhyw unigolyn neu fusnes fuddsoddi yn y fenter yw £100. Y mwyafswm ydi £20,000 a bydd pawb sy'n buddsoddi â'r hawl i benderfynnu cwrs y fenter.
Bydd y cyfarfodydd yn y dafarn yn dangos i bobl be'n union fydd y fenter. Mae'r adeilad mewn cyflwr da iawn er bod angen gwaith i droi'r fyny grisiau yn swyddfeydd a stafelloedd cyfarfod. Heb y buddsoddiad (yn hytrach na rhodd) gan unigolion a busnesau ni fydd y fenter yn digwydd ond mae Marc Jones yn hyderus y bydd digon o ddiddordeb i greu gwaddol barhaol wedi'r Eisteddfod.
Dim ond nifer cyfyngiedig o lefydd sydd ar gael felly cysylltwch â 7seren@gmail.com neu ffonio/tecstio 07747 792 441 i fachu eich lle. Mae'r cyfarfodydd Cymraeg am 2pm, 5pm a 7pm Dydd Mercher, 21ain Fedi a'r cyfarfodydd Saesneg am 2pm, 5pm a 7pm Dydd Iau, 22ain. Bydd lluniaeth ysgafn a gwin ar gael, gyda chyflwyniad byr, cwestiynau a thaith fer o amgylch yr adeilad.
Ar hyn o bryd, mae mwy o ddiddordeb wedi dod ymhlith dysgwyr na'r Cymry Cymraeg. Mae llawer o bobl wedi cysylltu i ddweud eu bod isio ail-gydio yn y Gymraeg a bod hwn i'w weld yn gyfle i'w wneud yn anffurfiol ac yn gymdeithasol.
Mae'r wefan www.saithseren.com yn cynnig mwy o wybodaeth a gallwch ymaelodi â Chanolfan Gymraeg Wrecsam arlein yno gyda PayPal neu cherdyn credyd.