Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Medi 2011

Gŵyl Bwyd Cymru yn llwyddiant ysgubol

Mae trefnwyr Gŵyl Bwyd Cymru wedi dweud y bu’r ŵyl eleni yn llwyddiant ysgubol, gan fod nifer fwy nag erioed o’r blaen o gynhyrchwyr ac ymwelwyr wedi’i mynychu.

Aeth bron 6,000 o bobl i’r ŵyl oedd ar ei chweched flwyddyn. Fe’i cynhaliwyd yng nghanol harddwch Gerddi Neuadd Glansevern ar benwythnos Medi 3ydd a 4ydd.

Mae’r ffigurau’n awgrymu bod yr holl gynhyrchwyr wedi gwerthu eu stoc yn gyflym a bod rhai wedi gwerthu eu stoc i gyd. Dywed llawer eu bod wedi cofrestru mwy o bobl nag yn y blynyddoedd cynt i’w cynlluniau blwch neu eu gwefannau.

Dywedodd Bernard Harris, Cadeirydd yr Ŵyl: “Bu Gŵyl Bwyd Cymru’n llwyddiant ysgubol a denodd nifer fwy nag erioed o gynhyrchwyr. Daeth mwy o ymwelwyr i’r ŵyl ar ddydd Sul nag erioed o’r blaen ac felly hwn oedd y diwrnod prysuraf yn hanes yr Ŵyl.”

“Roedd yr ychwanegiadau newydd gan gynnwys pabell ‘Taste Montgomery’, pabell fwy ar gyfer arddangosiadau coginio a gwell weithgareddau i blant, yn sicrhau ei bod yn ŵyl wych i’r teulu i gyd,” meddai.

“Wrth gwrs mae harddwch Gerddi Neuadd Glansevern yn creu profiad mor syfrdanol i’r ymwelwyr, does dim syndod bod pobl yn ei disgrifio fel un o wyliau gorau Cymru”, ychwanegodd.

Ar gyfartaledd gwariodd pobl rhwng £25 a £40 (heb gynnwys y tâl mynediad) sy’n dangos bod yr ymwelwyr wedi dod i ‘siopa’ a bod ganddynt ddiddordeb go iawn yn y bwyd o ansawdd da sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol.

Yn yr ŵyl cafwyd arddangosiadau gan y cogydd enwog Dudley Newbery a’r cogyddion lleol Sam Regan, o Westy’r Royal Oak, y Trallwng, a Stéphane Borie, o fwyty Checkers, Trefaldwyn, yn ogystal â blasu bwydydd ac amrywiaeth o weithgareddau i blant, gan gynnwys llwybr natur a oedd yn hynod boblogaidd.

Rhannu |