Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Medi 2011

Hanfodol adfer credydau treth gwaith gofal plant

Rhaid i lywodraeth y DG wrthdroi eu penderfyniad i ostwng credydau treth gofal plant, meddai Hywel Williams AS Plaid Cymru yr wythnos yma.

 

Daw galwad Mr Williams yn sgil canfyddiadau newydd gan Achub y Plant sy’n dangos fod teuluoedd yng Nghymru a ledled y DG yn cael eu gorfodi i wrthod swyddi neu i adael gwaith oherwydd cost enfawr gofal plant.

 

Ym mis Ebrill eleni, torrodd llywodraeth y DG gredydau treth gwaith o 80% i 70%. Mae Mr Williams wedi annog y llywodraeth i ail-feddwl am yr “achubiaeth” hon i rieni sy’n gweithio.

 

Ymwelodd Mr Williams â Sweden i gymharu eu darpariaethau gofal plant hwy.

 

Meddai Hywel Williams AS Plaid Cymru:

 

“Mae costau gofal plant yn y DG wedi saethu i’r entrychion ac y maent yn uwch yn awr nac yn unrhyw wlad gyfagos.

 

“Gwnaeth llywodraeth y DG gamgymeriad mawr yn gostwng lefel y gefnogaeth i ofal plant mewn credydau treth gwaith o 80% i 70%– mae’r rhain yn achubiaeth i rieni sy’n gweithio.

 

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd wneud mwy i sicrhau bod cefnogaeth gofal plant, gan gynnwys gofal trwy gyfrwng y Gymraeg, ar gael i’r safon uchaf ym mhob cwr o Gymru.

 

“Mae problem yn aml wrth gael gofal plant mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol difreintiedig – rhywbeth y deuthum i ar ei draws dro ar ôl tro yn f’etholaeth i.

 

“Rwyf wedi comisiynu llawer o ymchwil ar y pwnc hwn ac wedi ymweld â Sweden i ymchwilio i’w darpariaeth gofal plant hwy. Mae’r system yno gymaint yn well na’r un sydd gennym ni, ac yn wir yn ddigon i godi cywilydd arnom. Mae’n cael ei ddarparu yn bennaf gan y sector wirfoddol a chan y wladwriaeth. Gall rhieni weithio gan wybod fod eu plant yn derbyn y gofal iawn.

 

“Cyfarfûm yn ddiweddar â darparwyr o’r sector preifat, ac y maent hwy yn cael anawsterau mawr i gadw eu busnesau i fynd. Dyna pam y mae’n rhaid i ni wneud mwy i helpu rhieni sy’n ei chael yn anodd aros mewn gwaith.”

Rhannu |