Mwy o Newyddion
Lledu neges pysgod cynaliadwy
Mae’r cogydd enwog o Gymru, Dudley Newbery, yn cefnogi cardiau ryseitiau bwyd môr cynaliadwy WWF Cymru, sy’n cael eu hyrwyddo mewn nifer o wyliau bwyd ym mis Medi eleni.
Mae Dudley, Angela Gray a Bryn Williams i gyd wedi cyfrannu ryseitiau pysgod i’r cardiau. Dim ond rhywogaethau pysgod cynaliadwy o bysgodfeydd wedi’u hardystio gan y Cyngor Stiwardiaeth Morol (MSC) yn y Deyrnas Unedig a ddefnyddir yn y ryseitiau. Mae nhw hefyd yn rhoi canllaw cyflym ar sut a ble i brynu bwyd môr da ac awgrymiadau ynglŷn â sut i bwyso ar archfarchnadoedd lleol i werthu mwy o fwyd môr cynaliadwy.
Meddai Dudley: “Rwy wrth fy modd i hybu cardiau ryseitiau bwyd môr cynaliadwy WWF Cymru. Bwyta bwyd môr sy’n cael ei ddal mewn ffordd gynaliadwy heddiw yw’r unig ffordd y gallwn sicrhau y bydd ein plant a’n hwyrion yn gallu dal i fwyta bwyd môr yn eu hoes nhw. Rhaid i ni fod yn gydwybodol iawn a dewis dim ond pysgod sydd wedi cael eu dal o stociau cynaliadwy. Mae yna gynifer o ffyrdd blasus o fwynhau gwledd o bysgod a hwn yw un o’r bwydydd cyflymaf a mwyaf maethlon sydd ar gael i ni o hyd.”
Dywedodd Ruth Bates, Rheolwr Cyfathrebu WWF Cymru: “Fel prynwyr, gall fod yn anodd iawn bod yn siŵr bod y pysgod a ddewiswn wedi cael eu dal mewn ffordd gyfrifol. Mae WWF yn credu mai’r ffordd orau o wneud dewisiadau gwybodus yw trwy chwilio am logo tic glas y Cyngor Stiwardiaeth Morol (MSC) ar gynhyrchion bwyd môr.”
“Mae WWF Cymru wedi paratoi’r cardiau ryseitiau arbennig hyn i wneud y broses hon yn haws i chi. Rydym ni’n ddiolchgar iawn i rai o gogyddion mwyaf nodedig Cymru, Dudley Newbery, Bryn Williams ac Angela Gray, am adael i ni ddefnyddio eu ryseitiau blasus. Dim ond rhywogaethau pysgod cynaliadwy o bysgodfeydd sydd wedi cael eu hardystio gan yr MSC yn y Deyrnas Unedig sy’n cael eu hyrwyddo yn y ryseitiau.”
“Rydym ni’n gobeithio y bydd y ryseitiau hyn yn eich ysbrydoli a’ch annog i fod yn fwy anturus o ran eich chwaeth mewn bwyd môr ac yn rhoi tawelwch meddwl i chi eich bod chi’n cyfrannu at bysgota cynaliadwy yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig,” ychwanegodd.
Yn y llun gyda’r cardiau ryseitiau mae Dudley, a agorodd Ŵyl Bwyd Cymru yn Neuadd Glansevern y penwythnos diwethaf, 3ydd a 4ydd Medi. Llwyddodd yr Ŵyl i ddenu mwy o bobl nag erioed o’r blaen, tua 6,000. Bydd y cardiau ryseitiau hefyd yn cael eu dosbarthu i bobl fydd yn ymweld â Gŵyl Fwyd y Fenni ar 17eg a 18fed Medi. Mae’r rheiny sy’n methu mynd i’r gwyliau’n gallu lawrlwytho’r cardiau ryseitiau o www.wwf.org.uk/wales