Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Medi 2011

Cefnogi moratoriwm ar gronfeydd nwy siâl

Mae cynrychiolwyr yng nghynhadledd Plaid Cymru wedi cefnogi cynnig yn galw am foratoriwm ar ddefnyddio cronfeydd nwy siâl yng Nghymru hyd nes y gellir profi bod y dechnoleg yn gwbl ddiogel.

Cytunodd cynrychiolwyr yn y gynhadledd flynyddol yn Llandudno hefyd y dylai unrhyw fudd ariannol o echdynnu nwy siâl gael ei weld gan bobl Cymru drwy gronfa ynni Cymru a fyddai’n hyrwyddo cynaladwyedd ynni.

Dywedodd Dr Ian Johnson, ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Bro Morgannwg yn yr etholiad diweddar i’r Cynulliad, bod pryder am effaith amgylcheddol cynlluniau posib ym Mro Morgannwg, Penybont ac oddi ar arfordir Gogledd Cymru.

Dywedodd bod pryderon y gallai dŵr yfed fod wedi ei heintio drwy golledion i mewn i’r tabl dŵr, tra fod erthyglau gwyddonol a adolygwyd gan gyfoedion yn awgrymu y gallai nwy siâl fod yn fwy niweidiol i’r amgylchedd na glo neu olew.

“Gallwn ni ddim ganiatau i’n hadnoddau gael eu hegsploitio fel y gwnaed yn y gorffennol, heb ystyried yr effaith amgylcheddol, heb fod ganddo ni reolaeth dros y tir o dan ein traed.”

Dywedodd Dr Johnson y byddai’n well ganddo weld buddsoddi mewn adnoddau adnewyddol, yn cynnwys ynni’r llanw yn yr Hafren, yn lle adnoddau tanwydd ffosil fydd yn dod i ben.

Wnaeth y gynhadledd hefyd ail-gadarnhau galwad y Blaid i ddatganoli pwerau llawn dros bolisi ynni i Lywodraeth Cymru.

Llun: Dr Ian Johnson

Rhannu |