Mwy o Newyddion
Wythnos Cymru Daclus
Mae’r hydref wedi cyrraedd ac mae Wythnos Cymru Daclus flynyddol Cadwch Gymru’n Daclus bron yma. Mae’r elusen amgylcheddol yn galw ar bobl Cymru i helpu adferu llecynnau lle bu sbwriel ar ei waethaf . Mae gwirfoddolwyr eleni wedi bod yn araf i gofrestru ond mae amser dal ar gael i gymryd rhan a gwella eich ardal leol.
Bydd ‘Wythnos Cymru Daclus – noddwyd yr wythnos gan Lywodraeth Cymru – yn digwydd rhwng 19 a 25 Medi ac mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gobeithio y bydd pobl o bob cwr o’r wlad yn mynd ati i ddangos eu hawydd am fannau glân a diogel drwy gymryd rhan mewn gwaith ymarferol i ddatrys y broblem.
Y llynedd bu 32,000 o bobl o bob oed yn gwneud eu rhan i lanhau eu hardaloedd ac o ganlyniad i’r gwaith adferwyd llawer o lecynnau lle bu sbwriel ar ei waethaf. Canlyniad yr wythnos o weithgaredd oedd i filoedd o fagiau o sbwriel gael eu casglu gan wirfoddolwyr mewn mwy na 1,000 o leoliadau.
Yn anffodus mae sbwriel a thipio’n anghyfreithlon yn broblem fawr ac nid yn unig ar dir. Fel rhan o Wythnos Cymru Daclus eleni bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn lansio ‘Her y Tair Afon’(Three Rivers Challenge). Wedi ei ariannu gan Amgylchedd Cymru, pwrpas y digwyddiadau fydd i annog grwpiau cymunedol, busnesau a gwirfoddolwyr i helpu glanhau’r Ebwy, Teifi ac Ogwr dros dri phenwythnos dilynol yn ystod mis Medi a Hydref.
Er mwyn helpu’r grwpiau i gymryd rhan mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gallu benthyg offer a helpu gyda threfnu sesiwn glanhau. Bydd digwyddiadau sydd yn cael eu rhestri ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus yn derbyn yswiriant am ddim, canllawiau iechyd a diogelwch a gwybodaeth ar drefnu digwyddiad diogel a llawn hwyl.
Dywedodd John Griffiths, y Gweinidog dros yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy "Rwy’n falch i gefnogi Wythnos Cymru Daclus 2011 ac yn edrych ymlaen at gymryd rhan mewn sesiwn codi sbwriel yng Nghasnewydd fel rhan o’r wythnos.
"Mae’r bobl sydd yn gwirfoddoli i gymryd rhan mewn gwella yn gwneud cyfraniad hanfodol tuag at lwyddiant digwyddiadau fel y rhain. Mae gweithgareddau yn digwydd ar draws y wlad ac rwy’n annog pawb i sbario amser i helpu gydag Wythnos Cymru Daclus 2011.”
Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus: “Rydyn ni’n byw mewn oes brysur ond mae gan y rhan fwyaf ohonom awr neu ddwy’n rhydd i helpu i wella golwg ein hardal. Mae Wythnos Cymru Daclus a Her y Tair Afon yn gyfle gwych i bawb gwella edrychiad ein cefn gwlad prydferth. Mae offer yn brin eleni felly brysiwch i gofrestru!”