Mwy o Newyddion
No speaky? Dim problem!
Bydd rhai o sêr enwocaf Cymru i’w gweld yn ymgyrch Calon Cenedl ddiweddaraf S4C. Cafodd y selebs, sy’n cynnwys Lembit Opik a Colin Charvis, eu ffilmio ymysg y cyhoedd mewn gwisgoedd anarferol gyda’r slogan ‘No Speaky? Dim Problem!’
Mae saith wyneb adnabyddus yn ymddangos yn yr ymgyrch sy’n hyrwyddo hygyrchedd S4C i bawb – boed yn medru siarad Cymraeg ai beidio.
Nôl ym mis Gorffennaf, roedd Lembit a Colin – y ddau yn ddysgwyr Cymraeg – yn rhan o gyfres realaeth S4C Cariad@Iaith:Love4Language. Yn y gyfres, treuliodd wyth seleb wythnos ddwys yn dysgu Cymraeg, a ffilmwyd eu hymdrechion ar gyfer cyfres o raglenni byw nosweithiol.
Aeth Lembit a Colin, gyda’u cyd-ddysgwyr Helen Lederer, Melanie Walters, Rhys Hutchings, Matt Johnson a Josie d’Arby i strydoedd Cymru i ymarfer siarad Cymraeg a ffilmio cyfres o hysbysebion doniol fel rhan o’r ymgyrch.
Bydd yr hysbysebion newydd hefyd yn cyfeirio at wasanaethau mynediad y sianel, gan gynnwys isdeitlau, gwasanaeth ar alw ar-lein S4C a’r amrywiaeth o raglenni sydd ar gael i wylwyr.
Mae gan wylwyr S4C yr opsiwn o ddefnyddio isdeitlau Saesneg ar y mwyafrif o raglenni, ac mae rhaglenni’r sianel ar gael i wylio ar-lein, s4c.co.uk/clic, am hyd at 35 diwrnod ar ôl y darllediad cyntaf lle bod hawliau yn caniatáu.
Bydd yr ymgyrch gyda sêr Cariad@Iaith:Love4Language i’w gweld ar y teledu ac i’w glywed ar y radio o 16 Medi.
Llun: Lembit Opik