Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Medi 2011

Lleihau gwastraff

Mae ffigurau newydd yn dangos fod Sir Gaerfyrddin, unwaith eto, wedi lleihau'r gwastraff sy'n cael ei anfon i gladdfeydd sbwriel.

Yn 2010/11 anfonodd y sir 20,603 tunnell fetrig o wastraff trefol bioddiraddadwy i gladdfeydd sbwriel - sef 61% yn unig o'r lwfans o 33,919 tunnell fetrig a ganiateir. Datgelwyd y ffigurau yn adroddiad blynyddol Cynllun Lwfansau Tirlenwi Cymru a gyhoeddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.

Mae'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi yn cyfyngu ar y gwastraff trefol bioddiraddadwy fel papur, cardbord a sborion cegin - y caniateir i gynghorau eu hanfon i gladdfeydd sbwriel. Os bydd cynghorau'n cynhyrchu mwy o wastraff na'r terfynau hyn, fe allant gael dirwy.

Mae anfon llai o wastraff i gladdfeydd sbwriel hefyd yn helpu i leihau'r nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir, gan fod y nwy methan sy'n cael ei ryddhau wrth i wastraff bydru mewn claddfeydd sbwriel yn gallu bod 25 gwaith yn fwy niweidiol na charbon deuocsid. Y nod yw annog siroedd i arbed, ailgylchu, compostio a thrin y math hwn o wastraff.

Roedd Sir Gaerfyrddin yn un o wyth awdurdod lleol yng Nghymru a gafodd ganmoliaeth am ddefnyddio llai na 70% o'u lwfans.

Dywedodd Richard Workman, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Technegol y Cyngor fod y ffigurau'n dangos llwyddiant y cynllun biniau gwyrdd/bagiau glas ailgylchu a gafodd ei lansio yn Chwefror 2008 ac sydd bellach yn gwasanaethu tua 78,000 o gartrefi yn y sir.

Dywedodd: "Mae'n bwysig ein bod yn lleihau'r gwastraff sy'n mynd i gladdfeydd sbwriel trwy ailgylchu a chompostio mwy o'n gwastraff. Mae'r cynllun biniau gwyrdd/bagiau glas wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus a hoffwn ddiolch i'r preswylwyr am eu cydweithrediad yn didoli'u gwastraff.

"Fodd bynnag, bydd angen gwneud llawer mwy o waith er mwyn cyflawni ein targedau yn y dyfodol. Byddwn yn ymestyn y cynllun biniau gwyrdd/bagiau glas i weddill cartrefi Sir Gaerfyrddin yn y flwyddyn ariannol hon. Hefyd, mae nifer o fentrau ar waith gennym fel y bartneriaeth ag Age Concern i helpu pobl hŷn i ailgylchu a chynllun arbrofol ar gyfer 8,000 o dai sy'n ceisio cynyddu nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y cynllun gwastraff bwyd."

Lansiwyd y Cynllun Lwfansau Tirlenwi yn 2004 ac mae'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cydymffurfio â'u lwfansau yn 2010/11.

Roedd y Cyng Philip Hughes, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd yn croesawu ffigurau Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd: "Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn anfon llai o wastraff i gladdfeydd sbwriel. Mae gan bob un ohonom rôl sylweddol i'w chwarae, drwy feddwl yn ofalus am ein harferion siopa a sut y gallwn leihau gwastraff yn gyffredinol.

"Claddu sbwriel yw'r dull lleiaf cynaliadwy o reoli gwastraff a gallem gael dirwy ariannol gwerth miliynau o bunnau os byddwn yn methu cyflawni ein targedau yn y dyfodol. Mae lleihau'r sbwriel sy'n mynd i gladdfeydd sbwriel hefyd yn ein helpu yn y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. Trwy weithio gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth go iawn a gwella'r amgylchedd i'r cenedlaethau sydd i ddod."

Rhannu |