Mwy o Newyddion
Rhybudd Clefyd y Llech
DAETH rhybudd iechyd yr wythnos hon, yn dweud fod mwy o blant yn dioddef o glefyd y llech (rickets) – ac ar dechnoleg y mae’r bai (yn rhannol).
Mewn oes pan y credid bod gwell bwyd a maeth yn ‘lladd’ afiechydon a oedd yn arfer effeithio pobol y ganrif ddiwethaf ac mewn gwledydd llai datblygiedig, mae ystadegau’n dangos fod mwy a mwy o blant yn dioddef o ganlyniad i ddiffyg fitamin D, sydd i’w gael ym mhelydrau’r haul.
Mae plant yn dioddef fwyfwy oherwydd cymaint ohonyn nhw, yn ôl yr arolwg diweddaraf, yn treulio eu horiau hamdden dan-do yn chwarae gêmau ar eu cyfrifiaduron ac yn gwylio’r teledu.
Mae yna rai rhesymau diwylliannol hefyd – er enghraifft, mae merched sy’n dilyn Islam yn fwy tebygol o ddioddef os ydyn nhw’n gwisgo penwisg ac yn gorchuddio eu cyrff yn llwyr, ac felly’n osgoi pelydrau’r haul. Mewn achosion eraill, mae’r modd y mae rhieni’n amddiffyn crwyn eu plant rhag yr haul, trwy daenu hylif haul, yn gallu cyfrannu at y broblem: gall ychydig o haul wneud lles.
Ar ei waethaf, mae diffyg fitam D yn gallu arwain at y llech, clefyd oedd yn rhemp yn oes Fictoria ac sydd bellach yn dychwelyd i Gymru – ac i’r brifddinas yn arbennig. Yng Nghaerdydd ers 2009, mae chwech achos o’r clefyd wedi eu cofrestru.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n trafod a ddylen nhw ddosbarthu fitaminau i rieni â phlant dan 4 oed er mwyn ceisio cywiro’r sefyllfa.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA