Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Awst 2011

Rhannwch eich atgofion am y Coliseum

Mae’r gwneuthurwr ffilmiau lleol, Stuart Matthew Murray yn edrych am bobl i rannu eu hatgofion am sinema y Coliseum ar gyfer ei brosiect diweddaraf. Bydd y ffilm fer yn trafod sut yr oedd y Coliseum yn ran o fywydau pobl Porthmadog, yn ogystal ag ymwelwyr o bell, cyn iddo gau ar ddechrau’r flwyddyn. Mae’n gobeithio y bydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch i achub y Coliseum ac i’w ail-osod yng nghalon y gymuned.

Mae’r prosiect yn un sydd yn agos at galon Stuart. Wedi’r cyfan, esbonia mai’r mwynhad pur a gafodd tra’n ymweld â’r sinema a eginodd ei benderfyniad i ddod yn wneuthurwr ffilmiau.

Y dyddiau hyn, yn anffodus, dydy rheini o’r ardal gyda’u bryd ar y byd ffilmiau ddim mor lwcus. Pobl ifanc yw’r rhai sydd fwyaf ar eu colled ers i’r sinema gau ei ddrysau.

Mae Rees Williams yn 13 oed ac yn byw ym Mhenrhyndeudraeth. Mae’n dweud y byddai wrth ei fodd yn gweld y sinema yn cael ei ail-agor eto.

Meddai: “Does dim llawer i’w wneud i bobl fy oed i ym Mhorthmadog rwan. Mae fy ffrindiau a minna’ yn mynd i’r ganolfan hamdden, ond dim ond i wneud chwaraeon mae hynny.

"Oeddan ni’n arfer mynd i’r Coliseum unai ar nos Wener neu nos Sadwrn yn dibynnu beth oeddan nhw’n ddangos. Rwan mae’n rhaid i ni fynd i Landudno ac aros tan mae ein rhieni yn medru mynd â ni achos mae o dros awr i ffwrdd – byddai mynd ar y bws yn cymryd hydoedd.”

Bydd y ffilm yn help garw i bwysleisio y lle pwysig hwnnw sydd gan y Coliseum yng nghalonnau pobl Porthmadog. Os hoffech chi rannu eich hatgofion am y Coliseum ar gyfer ffilm Stuart, os gwelwch yn dda, cysylltwch gyda Friends of the Coliseum ar: admin@savethecoliseum.com

Rhannu |