Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Mehefin 2017

Dyfodol yr Wyddfa: Galw am ymateb

Heddiw, (Dydd Iau, 15 Mehefin), mae Partneriaeth yr Wyddfa, sy'n cynnwys ystod o sefydliadau sy'n gofalu ac yn gyfrifol am ddyfodol yr  Wyddfa, yn dechrau ymgynghori ar Gynllun Partneriaeth Yr Wyddfa.

Mae Cynllun Partneriaeth Wyddfa yn nodi sut y bydd aelodau'r bartneriaeth yn cyflawni eu gwaith yn ardal yr Wyddfa mewn ffordd gydlynol.

Mae'n tynnu sylw at yr hyn a gyflawnwyd gan y bartneriaeth hyd yn hyn, yn rhoi gwybod i bobl am yr hyn y mae'r bartneriaeth yn ceisio ei gyflawni a bydd yn cael ei ddefnyddio i fynd ar drywydd mwy o fuddsoddiad yn yr ardal er mwyn cyflawni gweledigaeth y bartneriaeth.

Dywedodd Helen Pye, rheolwr partneriaethau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Mae safbwyntiau a syniadau pobl yn hynod o bwysig i ni a dyna pam ein bod yn darparu'r cyfle hwn i bobl a mudiadau roi eu adborth ar y Cynllun drafft.

"Mae sicrhau mewnbwn gan eraill mor bwysig i ni fedru cynhyrchu’r cynllun gorau posib ar gyfer yr ardal, a bydd y cynllun yn sgil hyn yn esblygu ac yn cael ei addasu fel y bo'n briodol."

Bydd ymgynghoriad ar-lein yn dechrau heddiw ar http://www.parteriaethyrwyddfa.co.uk ac yn parhau tan 7 Gorffennaf.

Mae sesiwn galw heibio hefyd wedi cael ei drefnu ar gyfer 4 Gorffennaf rhwng 2:00 a 7.30yh yn y Mynydd Gwefru, Llanberis.

Rhannu |