Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Mehefin 2017

Mike a Jules Peters yn paratoi am her 130+ o filltiroedd

MAE Mike a Jules Peters yn cychwyn ar daith gerdded ar draws gogledd Cymru heddiw, 15 Mehefin, fel rhan o raglen brysur o weithgareddau codi arian er budd eu hymgyrch Wrth Dy Ochr.

Sefydlwyd yr elusen gofal canser Wrth Dy Ochr gan y canwr roc rhyngwladol Mike Peters yn Nhachwedd 2014 gydag Awyr Las, elusen GIG Gogledd Cymru.

Bydd yr ymgyrch yn cyrraedd ei huchafbwynt y mis hwn gyda thaith gerdded 130 milltir ar draws gogledd Cymru dan arweiniad Mike a’i wraig Jules.

Ar hyd y daith bydd ciniawau codi arian, cyd-ganu, Ras Fawr Gwthio Gwely Awyr Las a nifer o ddigwyddiadau cymunedol.

Bydd Mike a Jules yn cyrraedd terfyn yr her ar gopa’r Wyddfa yn ystod gŵyl gerdd a cherdded Snowdon Rocks, sef deuddydd llawn hwyl i’r teulu cyfan yn Llanberis ar 24 a 25 Mehefin.

Meddai Mike Peters, sydd wedi goroesi canser ei hun; “Pan wnes i lansio ymgyrch gofal canser Wrth Dy Ochr gydag Awyr Las dros ddwy flynedd yn ôl, roedd gen i weledigaeth gref iawn.

"Ro’n i eisiau helpu pobl eraill fel fi i gael yr ansawdd uchaf bosibl o driniaeth a gofal yma yng ngogledd Cymru; ro’n i’n gobeithio annog pobl i gadw’n actif; ac ro’n i eisiau dathlu popeth sy’n wych am ein GIG.

“Pa ffordd well o godi arian na mynd allan a mwynhau’r golygfeydd cwbl wefreiddiol sydd ganddon ni yn y rhan yma o’r byd?

"Rydyn ni’n gwybod y bydd yn waith caled, ond dydyn ni ddim yn bobl sy’n troi ein cefnau ar her.

"Yn bwysicaf oll, rydyn ni’n credu mor daer yn yr achos.

"Bydd pob ceiniog y llwyddwn ni i’w chodi drwy’r ymgyrch Wrth Dy Ochr yn cefnogi pobl gyda chanser a’u teuluoedd, ar stepen ein drws yma yng ngogledd Cymru.”

Ers ei lansio, mae’r ymgyrch wedi codi dros £270,000 ar gyfer offer newydd a gwell cyfleusterau, rhwydweithiau cefnogi a gyfer cleifion a hyfforddiant ychwanegol ar gyfer staff y GIG.

Mae hyn wedi cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl sy’n byw gyda chanser yng ngogledd Cymru.

Y nod yw codi £351,120, sef punt am bob cam sydd rhwng tri prif ysbyty gogledd Cymru yn Wrecsam, Bodelwyddan a Bangor.

Bydd y rheiny wnaeth wylio’r rhaglen ddogfen ddiweddar ar BBC One, Mike and Jules: While We Still Have Time yn ymwybodol bod y cwpl wedi cael blwyddyn anodd gan i Jules dderbyn diagnosis o ganser hefyd.

Meddai Mike: “Rydyn ni’n gryfach a mwy penderfynol nag erioed.

"Rydyn ni’n dau yn dal yn ymwybodol iawn bod ganddon ni lawer i fod yn ddiolchgar amdano ac mae’n gweledigaeth yn parhau i fod yr un fath: rydyn ni eisiau helpu, rydyn ni eisiau annog pobl i fod yn obeithiol ac rydyn ni eisiau dathlu.

"Dyna pam ein bod ni’n mynd ar y daith wefreiddiol yma fel rhan o’n gweithgareddau ehangach dan yr ymgyrch Wrth Dy Ochr.

"Byddwn yn codi arian, byddwn yn canu, byddwn yn cofio am ffrindiau a gollwyd a byddwn yn cael andros o hwyl.”

Gellir cofrestru i gymryd rhan a dod o hyd i’r rhaglen lawn o weithgareddau ar http://www.byyoursideappeal.org

Gellir cyfrannu’n ariannol at ymgyrch Wrth Dy Ochr drwy gysylltu â Thîm Awyr Las neu yn http://www.justgiving.com/campaigns/charity/algc/byyourside neu drwy decstio BYYS17 £5 i 70070

Rhannu |