Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Mehefin 2017

Casia Wiliam yw Bardd Plant Cymru 2017-2019

Cyhoeddwyd yn Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái mai Casia Wiliam yw Bardd Plant Cymru 2017-2019.

Daeth y cyhoeddiad o lwyfan y Brifwyl gan Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

Casia fydd y 15fed Bardd Plant, a bydd yn dechrau ar y gwaith yn swyddogol ym mis Medi eleni, gan gymryd yr awenau gan Anni Llŷn a ddechreuodd y rôl yn 2015.

Mae cynllun Bardd Plant Cymru yn sicrhau fod plant ym mhob cwr o Gymru yn cael y cyfle i arbrofi â geiriau.

Drwy weithdai, perfformiadau a gweithgareddau mae’r cynllun yn cyflwyno llenyddiaeth i blant mewn modd bywiog, deinamig a chyffrous.

Mae Casia yn 29 oed a daw’n wreiddiol o Nefyn ym Mhen Llŷn, ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Mae wedi cyhoeddi dau lyfr i blant, wedi addasu dwy o nofelau Michael Morpurgo i’r Gymraeg ac mae’n aelod o dîm Y Ffoaduriaid ar gyfres radio Talwrn y Beirdd.

Meddai Casia: “Dwi’n edrych ymlaen yn ofnadwy at gael crwydro ledled Cymru yn cyfarfod yr holl blant, y rhai sy’n cael modd i fyw wrth sgwennu a’r sgwennwyr anfoddog!

“Mi fydd yn bleser pur clywed eu syniadau, tanio eu dychymyg, ac annog pawb i roi cynnig ar sgwennu cerdd.

“Yn ystod fy nghyfnod fel Bardd Plant Cymru dwi'n gobeithio dangos i blant bod pawb yn gallu sgwennu cerdd, bod barddoniaeth yn rhywbeth sy'n byw yn y glust nid dim ond ar bapur, a bod darllen a sgwennu barddoniaeth yn ffyrdd gwych o weld a phrofi bywyd trwy lygaid rhywun, neu rywbeth arall.”

Gyda chyfnod Anni Llŷn yn dod i ben, mae’n hyderus bod y cynllun yn cael ei drosglwyddo i olynydd cymwys.

Dywedodd Anni am Casia: “Mae hi’n fardd ac awdur gwych. Mae ganddi ddychymyg arbennig ac mae hi’n saff o fynd â Phlant Cymru ar antur.”

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Anni wedi torri tir newydd gan ymweld â phob sir yng Nghymru, 83 ysgol, 10 castell a chyd-weithio ag 20 o bartneriaid allanol mewn gweithdai a gweithgareddau amrywiol gan ddiddanu, ysbrydoli ac ymgysylltu â dros 6,000 o blant.

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys gweithdai, taith Siarter Iaith, sioe Cbeebies, perfformiadau yn ystod Gŵyl Llên Plant Caerdydd, dathliadau Roald Dahl 100 Cymru, creu a pherfformio sioe yng Ngŵyl Hanes Cymru i Blant, dathliadau pen-blwydd Y Senedd a phrosiect Neges Ewyllys Da yr Urdd i enwi dim ond rhai.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru am y cyhoeddiad: “Rydym wrth ein boddau fod Casia yn cymryd yr awenau, a hoffem ddiolch i Anni am ei holl waith a’i brwdfrydedd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

"Mae pob Bardd Plant Cymru wedi perchnogi a datblygu’r cynllun ac rydym yn edrych ymlaen at weld i ba gyfeiriad y bydd Casia yn ei arwain.

"Mae hi’n lenor talentog dros ben, ac rydym fel partneriaid yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld y cynllun yn torri tir newydd a chyffrous. Mynnwch weithdy ac ymweliad ganddi!”

Bydd Anni a Casia yn cynnal rhai digwyddiadau ar y cyd rhwng nawr a diwedd yr Haf, gan gynnwys Talwrn y Beirdd Bach yn ffair Tafwyl 2017 ar 1 Gorffennaf, cyn i Casia ddechrau ar y gwaith yn unigol o fis Medi ymlaen.

Mae Llenyddiaeth Cymru, sy’n gweinyddu’r cynllun, yn annog unrhyw ysgol, sefydliad, llyfrgell neu glwb ieuenctid sy’n dymuno gwneud cais am ymweliad gan Bardd Plant Cymru gysylltu drwy ebostio: barddplant@llenyddiaethcymru.org neu ffonio 029 2047 2266 – y dyddiad cau i wneud cais ar gyfer blwyddyn academaidd 2017/2018 yw 1 Rhagfyr 2017.

Cynllun ar y cyd yw Bardd Plant Cymru rhwng Llenyddiaeth Cymru, Yr Urdd, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cymru.

Rhannu |