Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Mehefin 2017

Pêl swyddogol Euro 2016 i’w gweld fel rhan o arddangosfa bêl-droed newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae un o beli ‘Beau Jeu’ swyddogol adidas, a ddefnyddiwyd yn ystod buddugoliaeth enwog Cymru yn erbyn Gwlad Belg yn rownd gogynderfynol Euro 2016, yn un o’r prif wrthrychau sydd i’w gweld mewn arddangosfa newydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am hanes clybiau pêl-droed Cymru yn Ewrop.

Mae nifer o bêl-droedwyr Cymreig wedi gwneud eu marc ym mhêl-droed clybiau Ewrop ac mae’r arddangosfa newydd hon, sy’n cyd-fynd â rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yng Nghaerdydd, yn dathlu eu cyfraniad.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys pum chwaraewr sydd wedi ennill y gystadleuaeth enwog – Jayne Ludlow, Joey Jones, Ian Rush, Ryan Giggs a Gareth Bale – ac ymysg yr eitemau mae crysau a wisgwyd gan Jones a Giggs, crys wedi’i lofnodi gan Bale, rhaglenni, penynnau a chapiau.

Caiff rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr Merched UEFA ei chynnal yng Nghaerdydd hefyd, ac mae’r arddangosfa’n edrych ar hanes a datblygiad gêm y merched yma yng Nghymru.

Jayne Ludlow yw Rheolwr Tîm Merched Cenedlaethol Cymru a hi oedd capten y tîm Arsenal - y clwb cyntaf y tu allan Almaen a Llychlyn i gystadlu, ac ennill rownd terfynol UWCL yn 2007.

Hi hefyd yw llysgennad swyddogol ar gyfer rownd terfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA Merched 2017.

Dywedodd: "Mae'r twf mewn pêl-droed menywod yng Nghymru dros y 10 mlynedd diwethaf wedi bod yn anhygoel ac wrth gwrs mae eleni yn flwyddyn fawr i ni.

“Mae rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn ddigwyddiad enfawr i ni i gynnal yng Nghaerdydd, yn arddangos chwaraewyr o’r lefel uchaf ar stepen drws. I bobl ifanc, mae hwn yn gyfle i weld y chwaraewyr gorau ar y blaned, a fydd gobeithio yn eu hysbrydoli yn y dyfodol. "

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Dyma arddangosfa hanfodol i ymwelwyr sydd am wybod mwy am rôl Cymru ym mhêl-droed clybiau Ewrop.

“Ac wrth gwrs, rydym ni’n hapus iawn ein bod wedi caffael un o beli swyddogol adidas Euro 2016 ar gyfer y casgliad cenedlaethol. Fel Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ein rôl ni yw casglu gwrthrychau ac atgofion sy’n coffáu adegau arwyddocaol yn ein hanes fel cenedl.”

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: “Fel gwlad fach, rydym yn hynod o lwcus i fod wedi cynhyrchu rhai o bêl-droedwyr gorau’r byd, ac mae’n wych i weld yr arddangosfa hon sy’n dathlu llwyddiant rhai ohonynt.

“Cawsom ein difetha llynedd gan berfformiad arwrol ein tîm cenedlaethol yn Ffrainc, ac unwaith eto bydd sylw Cymru gyfan ar y bêl gron, wrth i rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA gyrraedd Caerdydd yr wythnos hon.

"Mae’r atgofion hyn yn werth eu trysori a byddwn yn annog i unrhyw gefnogwr pêl-droed fynd draw i gael golwg.”

Ar ddydd Sul 4 Mehefin, bydd cyfle i ymwelwyr fwynhau sgiliau anhygoel pêl-droedwyr dull rhydd yn y brif neuadd, yn ogystal â rhoi cynnig ar grefftau a chreu set bêl-droed bwrdd.

Mae’r arddangosfa i’w gweld ym mhrif neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan 18 Mehefin 2017 ac mae mynediad am ddim.

Rhannu |