Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Awst 2011

Agor y drysau i ryfeddodau treftadaeth Cymru

Mae Cymru’n barod am y dathliad o dreftadaeth ddiwylliannol rhad ac am ddim mwyaf erioed fis Medi wrth i Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Treftadaeth Cymru, agor drysau nifer o safleoedd hanesyddol hyd a lled y wlad, sydd fel arfer ar gau i’r cyhoedd neu’n codi tâl am fynediad.

Fel rhan o Ddyddiau Agor Drysau Treftadaeth Ewropeaidd 2011, bydd nifer o wahanol safleoedd yn agor yn rhad ac am ddim ar amseroedd penodol yn ystod mis Medi, gan roi rhyddid i bawb archwilio a mwynhau treftadaeth amrywiol a chyfoethog Cymru. Fel rhan o’r dathliadau bydd nifer o adeiladau hyd a lled Cymru, o bob oed, arddull, cyfnod a swyddogaeth, o gestyll i ffatrïoedd, ac o neuaddau tref i sguboriau degwm ac eglwysi plwyfol, yn agored i’r cyhoedd yn rhad ac am ddim.

O ddydd Sadwrn 3 Medi, bydd Cadw yn agor y cofadeiladau canlynol yn rhad ac am ddim (i’r rheiny nad ydynt eisoes yn rhad ac am ddim i’w mynychu) o amgylch Cymru gan wahodd y cyhoedd yn gyffredinol i archwilio:

 

Gogledd Cymru

 

Neuadd Hafoty, Castell Fflint, Castell Rhuddlan, Capel Rug ac Abaty Glyn y Groes

 

Bydd Neuadd Hafoty yn Llansadwrn ar Ynys Môn yn agored bob penwythnos yn ystod mis Medi - 3&4, 10&11, 17&18, 24&25 (12 - 4pm). Bydd tywysydd ar gael ar y dyddiau hyn i ateb cwestiynau a chynnal teithiau tywys yn ôl y gofyn.

 

Bydd Castell Fflint ar agor ar ddydd Sadwrn 3 o Fedi (10am – 4pm), tra bod Castell Rhuddlan ar agor ar ddydd Sadwrn 3 a dydd Sul 4 o Fedi.

 

Bydd modd ymweld â Chapel Rhug yn rhad ac am ddim ar ddydd Sadwrn 10 a dydd Sul 11 o Fedi (10am-5pm).

 

Bydd modd ymweld ag Abaty Glyn y Groes yn rhad ac am ddim ar ddydd Sadwrn 17 a dydd Sul 18 o Fedi fel rhan o raglen Agor Drysau Llangollen.

 

Mae teithiau tywys ar gael ar yr holl safleoedd ar yr holl ddyddiau.

 

Gogledd-Ddwyrain Cymru

 

Baddonau Caerllion, Amffitheatr a Barics, Castell Caerffili, Castell Cas-gwent.

 

Bydd Baddonau Caerllion, Amffitheatr a Barics ar agor ar ddydd Sul 18 o Fedi (10am-5pm). Bydd teithiau tywys mewn gwisgoedd am 10.30am, 12.30pm a 14.30pm yn gychwyn o fynedfa’r Baddonau.

 

Fel rhan o Ŵyl Ymylol Caerffili, sy’n cael ei chynnal i gyd-daro â digwyddiad BBC Proms in the Park, bydd Castell Caerffili ar agor i bawb yn rhad ac am ddim ar ddydd Sadwrn 10 o Fedi (9.30am-5.30pm). Bydd diwrnod llawn hwyl i’r teulu cyfan yn cynnwys Clerwyr Sir Fynwy, gorchestion chwifio tân a dianc Fiery Jack & Mario Morris ynghyd â gorymdaith y ddraig ac adrodd stori gyda Alchemy. Hefyd bydd cyfle i brofi’r bwyd fel rhan o’r wledd ganoloesol yn y Castell ddechrau mis Rhagfyr yn ystod Illuminata 2011.

 

Ar ddydd Sul 18 o Fedi, bydd Castell Cas-gwent yn agor ei ddrysau fel rhan o ddigwyddiad Agor Drysau ‘Edrych dros yr afon Gwy’ Sir Fynwy. Bydd y drysau’n agor o 10am-5pm.

 

Yng Nghastell Casnewydd ar ddydd Sadwrn 3 o Fedi bydd darlithoedd ar hanes y Castell yn cael eu cynnal yn ystod y dydd (10am-2pm).

 

De-Orllewin Cymru

 

Castell Cilgerran, Llys yr Esgob Llandyfái ac Abaty Castell Nedd.

 

Bydd Castell Cilgerran ar agor ar ddydd Sadwrn 10 o Fedi (10am-5pm). Yn ogystal â’r cyfle i archwilio’r cofadail hanesyddol hwn, bydd gŵyl flodau hefyd yn cael ei chynnal i ymwelwyr ei mwynhau.

 

Bydd Llys yr Esgob Llandyfái ar agor ar ddydd Sadwrn 10 o Fedi o 10am-5pm â theithiau tywys gyda gwisgoedd yn cael eu cynnal rhwng 10am-4pm.

 

Bydd Abaty Castell Nedd ar agor o 10am-5pm ar ddydd Sadwrn 3 a dydd Sul 4 o Fedi. Bydd teithiau tywys ar gael drwy gydol y dydd.

 

Am restr lawn o’r safleoedd sy’n cymryd rhan (gydag amseroedd a dyddiadau agor) a’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Agor Drysau 2011, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Cymru ar www.civictrustwales.org.

Llun: Castell Cilgerran

Rhannu |