Mwy o Newyddion
Mared o Forfa Nefyn yn Ennill y Fedal Ddrama
Mared Llywelyn Williams, sydd yn 24 oed ac yn wreiddiol o Forfa Nefyn, yw enillydd Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái yn 2017.
Mae gwaith buddugol Mared ‘Lôn Terfyn’ o dan y ffug enw ‘Dwnad’, yn mynd i’r afael â byd sy’n llawn tensiynau bregus gwleidyddol.
Mae Mared ar hyn o bryd yn gweithio i Wasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd yn Nefyn.
Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Cymraeg ac Astudiaethau Theatr, cyn mynd ymlaen i wneud M.A Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth.
Yn ystod ei blwyddyn M.A dechreuodd ysgrifennu o ddifri. Y theatr yw ei phrif ddiddordeb, ac yn gynharach yn y flwyddyn ffurfiodd Cwmni Tebot gyda’i ffrindiau, cwmni theatr amatur lleol.
Mae wedi bod yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a’r Urdd ers blynyddoedd gydag Ysgol Botwnnog, Aelwyd Chwilog ac Aelwyd Pantycelyn.
Dywedodd: “Mae yna nifer fawr o bobl sydd wedi fy ysbrydoli a’m herio dros y blynyddoedd; megis Nia Plas yn Ysgol Morfa, Delyth Roberts a Mair Gruffydd yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Roger Owen o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn Aberystwyth, Mihangel Morgan, Huw Meirion Edwards a phawb oll yn Adran y Gymraeg ond diolch yn arbennig i Esyllt Maelor.”
Roedd y beirniad, Alun Saunders a Sian Summers, yn gweld y ddrama hon “nid yn unig yn ymateb yn gyffrous i’r briff a osodwyd, ond mae iddi’r holl elfennau sy’n creu drama lwyfan afaelgar.”
Aethant ymlaen i ddweud: “Mae’r iaith - fel mynegiant o agweddau’r cymeriadau - yn eofn ac hyderus wrth fynd i’r afael â byd yn llawn tensiynau bregus gwleidyddol.
"O’r cychwyn cyntaf cawn ein cyflwyno i fyd a pherthynas gyfareddol y cymeriadau - mae’r ddawn gan y Dramodydd i blannu gwirioneddau’r cymeriadau hyn yn yr is-destun gan ymddiried yn y darllenydd neu’r gynulleidfa i archwilio a darganfod eu dehongliad.
“Yn ein barn ni, mae safon ac uchelgais y ddrama hon yn llawn haeddiannol o’r Fedal Ddrama."
Chwaer fach Mared, Lois Llywelyn Williams, enillodd y Fedal Ddrama yn 2016 gyda Mared yn drydydd yr adeg hynny.
Eleni, yn ail yn y gystadleuaeth roedd Arddun Arwel o Aelwyd JMJ ac yn drydydd roedd Sara Hughes o Gylch Alaw Cybi. Rhoddir y fedal eleni gan Mari George.