Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Mehefin 2017

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ethol Arweinydd

Mae Gareth Jones (Plaid Cymru) wedi ei ethol fel arweinydd Cyngor Conwy.

Mewn cyflwyniad i’r Cyngor, dywedodd y Cynghorydd Jones: “O dan fy arweinyddiaeth byddai’r Cabinet yn wirioneddol ddemocrataidd a chynhwysol.

“Gofynnaf i chi fod â ffydd yn fy uniondeb ac yn f’ymdrech wirioneddol i fod yn arweinydd cyfrifol ac ymrwymedig a fyddai'n fwy na pharod i fod yn atebol nid i un neu ddau o grwpiau yn unig, ond i bob un ohonoch chi, gynghorwyr, yn eich ymdrechion, a dyna lle mae’n cyfrif, o fewn eich wardiau i wasanaethu eich etholwyr a’r siambr hon ac i wasanaethu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

“Rhannwch y weledigaeth o newid gyda mi.  Os ydym am wynebu’r heriau sydd o’n blaenau dros y pum mlynedd nesaf, mae arnom angen eich sgiliau i gyd – nid sgiliau rhai ohonoch yn unig.

“Gyda’ch cefnogaeth gallaf newid pethau er gwell.”

Mae’r Cynghorydd Jones yn briod â Myra ac yn dad i Eleri, Dylan, Gwenno a’r diweddar Ffion.

Symudodd i’r ardal o Gricieth yn 1976 ar ôl cael ei benodi yn bennaeth Ysgol John Bright yn Llandudno.

Mae wedi cynrychioli Craig-y-Don ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ers 1996 ac yn y cyfnod hwnnw wedi gwasanaethu mewn amrywiol rolau gan gynnwys Dirprwy Arweinydd, Aelod Cabinet a Chefnogwr Pobl Hŷn.

Mae wedi treulio dau gyfnod fel Aelod Cynulliad hefyd – rhwng 1999 a 2003, yn cynrychioli cyn etholaeth Conwy, a rhwng 2007 a 2011, yn cynrychioli Aberconwy. 

Rhannu |