Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Mai 2017

Pobl ifanc yn galw i’w llais gael ei glywed yn Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2017

Bydd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd, sydd yn cael ei chyhoeddi ar 18 Mai, yn galw eleni am gydraddoldeb i bobl ifanc ac i lais pobl ifanc gael ei glywed.

Eleni am y tro cyntaf, mae’r neges wedi ei llunio gan Fwrdd Syr IfanC, sef fforwm genedlaethol Urdd Gobaith Cymru ar gyfer eu haelodau 16 – 24 oed.

Yn y neges, maent yn galw am gydraddoldeb o ran hawliau i bobl ifanc ar draws y byd, ac yn galw am i’w lleisiau gael eu clywed, ‘gan ofyn i eraill siarad gyda ni, cyn siarad ar ein rhan ni’.  Maent hefyd yn galw am yr hawl i bobl ifanc dros 16 oed gael bwrw eu pleidlais.

Ar ffurf fideo fydd y neges eleni, yn hytrach na pherfformiad llafar, er mwyn hwyluso’r gwaith o’i lledaenu dros gyfryngau cymdeithasol.  Bydd yn cael ei chyfieithu i 17 iaith, gan gynnwys Rwsieg, Macedonian, Swahili ac Arabeg.

Bydd y fideo yn cael ei ddangos am y tro cyntaf mewn digwyddiad arbennig yn y Senedd, dan nawdd Llywydd y Cynulliad Elin Jones, dydd Mercher 17 Mai am 12:30pm ac yna ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd dydd Mercher, 31 Mai am 2:35pm.

Mae’r Urdd hefyd yn annog pobl ifanc ar draws y byd i ymateb i’r neges eleni, gyda’r ymatebion yn cael eu cynnwys ar wefan yr Urdd.

Mae’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da, a anfonwyd am y tro cyntaf ym 1922 gan y Parchedig Gwilym Davies o Gwm Rhymni, yn draddodiad blynyddol sy’n ysgogi ac yn ysbrydoli gweithgarwch dyngarol.

Meddai Sioned Hughes, Prif Weithredwr yr Urdd: “Mae’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn un o draddodiadau pwysica’r Urdd, sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc Cymru estyn dwylo i bobl ifanc ym mhedwar ban byd.

“Mae’r neges yn un amserol iawn eleni, gyda Chomisiwn y Cynulliad newydd lansio ymgynghoriad ar greu Senedd Ieuenctid i Gymru a’r etholiadau yn prysur agosáu.

“Mae’n dangos pa mor gryf mae ein haelodau yn teimlo o ran y cyfraniad sydd ganddynt i’w gynnig.”    

Rhannu |