Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Mai 2017

Cyfle i glywed gig Jarman am ddim!

MAE uchafbwyntiau Gŵyl Cefni wedi cael eu gyhoeddi ac mae’r ymateb eisoes wedi bod yn frwd. 

Eicon o’r sîn Gymraeg, Geraint Jarman, fydd uchafbwynt y Gig Mawr ger y Bull yn Llangefni, gyda llu o fandiau poblogaidd i’w gefnogi ar brynhawn a nos Sadwrn, 10  Mehefin.

Y newyddion da yw fod Pwyllgor Gŵyl Cefni, gyda nawdd y Cyngor Celfyddydau a’r Loteri Genedlaethol, am fod yn medru cynnig mynediad am ddim i’r Gig Fawr.

Dywedodd Nia Thomas, swyddog ieuenctid Menter Iaith Môn sydd ar Bwyllgor Gŵyl Cefni: “Dwi wedi cyffroi’n arw fod Geraint Jarman wedi cytuno i ddod draw i Ŵyl Cefni.

“Fe glywais i o yn Eisteddfod Meifod ac mi oedd o’n briliant!

“Dwi’n hoffi’r ffync yn ei gerddoriaeth ac mae’n un o’r cerddorion yna sy’n llwyddo creu awyrgylch gwych i gynulleidfa o bob oed!”

“Mae am fod yn ŵyl ffantastig gyda chymaint o amrywiaeth a rhywbeth at ddant pawb: noson gwis yn y Railway ar nos Fercher (7 Mehefin); gweithdy celf i blant yn Oriel Môn ar brynhawn Iau; gig y rhyfeddol Alys Williams a’r band gyda Gwilym yn cefnogi ar y nos Wener yn Theatr Fach; bore Sadwrn o hwyl a sioe i’r teulu yng Nghapel Ebeneser gyda chymeriadau S4C; ac yna’r Gig Fawr gyda mwy na 10 o fandiau rhwng 12 a 8pm ar y dydd Sadwrn, heb anghofio y bydd Menter Gymdeithasol Llangefni yn trefnu gweithgareddau i deuluoedd a bwyd ar safle’r farchnad hefyd.”

Un sy’n brofiadol yn mentora bandiau ifanc drwy’r prosiect Bocsŵn yw Huw Owen, aka y cerddor ‘Mr Huw’, a ddywedodd: “Tra bod gan Geraint Jarman wreiddiau teuluol ym Môn, mae ei wreiddiau cerddorol yn fyd-eang gan gynnwys profiadau reggae cynnar yn Jamaica.

Tacsi i’r Tywyllwch, Ethiopia Newydd, Atgof fel Angor, mae’r boi yn athrylith… ac am fod yn denu cynulleidfa o bob cefndir i fod yn gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg yn Llangefni.

“A chyda phrofiad o hanner canrif o angerdd dros gerddoriaeth Cymraeg fodern, pwy gwell i ysbrydoli rhai o’r bandiau ifanc o Fôn fydd yn perfformio, fel Carma gyda’u sain cyffrous, ac (An)naearol gyda’u caneuon bachog, gan roi hwb i fandiau newydd wrth ehangu eu gorwelion daearyddol a cherddorol.”

Ychwanegodd Nia Thomas: “Diolch i waith diflino’r pwyllgor ers 17 mlynedd, mae Gŵyl Cefni yn ddyddiad sefydlog yng nghalendr yr ynys ac mae bob amser yn braf cael denu cynulleidfaoedd newydd a chroesawu pobl o bell ac agos.

“Mae cymaint am fod yn digwydd eleni ac mi fyddwn yn rhyddhau mwy o fanylion wrth fynd yn ein blaenau ond yn y cyfamser rwyf am bwyso ar bawb i’n dilyn ar facebook Gŵyl Cefni neu ar trydar @moniaith.”

“Er y bydd y Gig Mawr yn rhad ac am ddim, mae’n bwysig archebu rhai o’r digwyddiadau eraill rhagflaen, gan y bydd tocynnau a llefydd yn mynd yn sydyn.”

Medrwch ffonio Menter Iaith Môn ar 01248 725700 i archebu tocyn i gig Alys Williams a’r band/Gwilym, yn Theatr Fach gyda bar 9/6/17 (am £7 /£5 dan 18), neu ar gyfer gweithdy celf Oriel Môn 4-6pm 8/6/17 i wneud addurniadau ar gyfer yr orymdaith 10/6/2017 (gweithdy am ddim ond nifer cyfyngedig i 25 plentyn).

Yn ogystal, er bod y Bore o Hwyl i’r Teulu am ddim, mae mynediad drwy ddangos ‘tocyn’ sydd ar ffurf band garddwrn sydd ar gael rhagflaen o siop Cwpwrdd Cornel Llangefni (01248 750218).

Gan gofio mai cymeriadau poblogaidd S4C i blant fydd yn ymddangos, mi fydd y tocynnau i’r gweithgaredd yma yn mynd yn sydyn hefyd.

Trefnir yr Ŵyl flynyddol gan Bwyllgor Gŵyl Cefni a derbynnir cefnogaeth mewn da neu nawdd gan Menter Iaith Môn, Cyngor Celfyddydau Cymru, Y Loteri Genedlaethol, Oriel Môn, Cyngor Sir Ynys Môn, The Sign Factory, a Menter Gymdeithasol Llangefni.

Llun: Geraint Jarman (Iolo Penri)

Rhannu |