Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Mai 2017

Dau ddigywddiad yn Aber yn cyd-weithio

MAE dau o brif ddigwyddiadau blynyddol Aberystwyth am ddod at ei gilydd i gynnig cystadleuaeth i blant a myfyrwyr ysgol leol. 

Bydd FfotoAber,  yr ŵyl flynyddol ffotograffiaeth a GŵylSeicloAber yn cyd-weithio, ynghyd â Chlwb Rotari Aberystwyth a Chwmni Theatr Arad Goch i dynnu sylw at y gweithgareddau cyffrous y gellir eu gweld yn Aberystwyth dros y misoedd nesaf.

Dros y saith mlynedd diwethaf mae cystadleuaeth ysgolion FfotoAber ar gyfer disgyblion yn ardal Aberystwyth wedi bod yn hynod boblogaidd, ond eleni maent yn gofyn i ffotograffwyr brwd i gofnodi cyffro digwyddiad beicio unigryw’r dref.

Eglurodd Deian Creunant o FfotoAber y datblygiad newydd: “Mae ein cystadleuaeth ysgolion a cholegau wedi bod yn boblogaidd iawn ac, mewn partneriaeth â Chlwb Rotari Aberystwyth a Chwmni Theatr Arad Goch, wedi bod yn datblygu’n gyson dros y blynyddoedd.

“Mae’n gam naturiol i ni gydweithio â phrif ddigwyddiad arall er mwyn tynnu sylw at y gweithgareddau parhaus all Aber ei gynnig.”

Gofynnir i gystadleuwyr gyflwyno hyd at dri llun sy’n crynhoi holl gyffro’r gwahanol weithgareddau a gynhelir yn ystod wythnos yr ŵyl seiclo.

Shelley Childs yw un o brif gydlynwyr GŵylSeicloAber: “Fel FfotoAber nod GŵylSeicloAber yw hyrwyddo Aberystwyth fel cyrchfan ddeniadol a thynnu sylw at yr hyn all y dref gynnig yn ogystal ag adeiladu ar y diddordeb cynyddol mewn beicio.

“Mae ein digwyddiadau wedi datblygu yn gyson dros y blynyddoedd ac mae’r bartneriaeth newydd hyn yn ddilyniant naturiol ac edrychwn ymlaen at weld y canlyniadau.”

Jeremy Turner yw cyfarwyddwr artistig Cwmni Theatr Arad Goch sy’n cynnal eu digwyddiad mawr eu hunain yn yr haf: “Mae gweithio gyda FfotoAber yn ein galluogi i arddangos rhai o weithiau rhagorol y myfyrwyr lleol yn ein hardal arddangos broffesiynol.

“Mae ganddom ninnau ein Gŵyl Hen Linell Bell ym mis Gorffennaf, un o’n prosiectau mwyaf uchelgeisiol erioed a bydd yn hybu Aberystwyth ymhellach fel canolfan gweithgareddau diwylliannol.”

Cred Geraint Thomas o Glwb Rotari Aberystwyth fod hyn yn cynnig her newydd i’r cystadleuwyr.

Meddai: “Mae diddordeb mawr wedi bod yn y gystadleuaeth ysgolion a cholegau o’r cychwyn cyntaf ac mae wedi datblygu yn gyson. 

“Mae gweithio gyda GŵylSeicloAber yn cynnig dimensiwn arall i’r gystadleuaeth ac rwy’n edrych ymlaen at weld y lluniau a sut mae cyffro’r digwyddiadau yn cael ei arddangos.”

Yn ogystal â’r gystadleuaeth ysgolion bydd y ffotomarathon yn dychwelyd eto gyda’r her ffotograffig chwe awr yn digwydd ar 28 Hydref.

I ddysgu mwy am yr ŵyl ewch i http://www.ffotoaber.cymru  Gallwch hefyd ei dilyn ar Twitter (@FfotoAber) a Facebook.

Rhannu |