Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Awst 2011

Gŵyl Fwyd Cymru

Mae trefnwyr yr ŵyl boblogaidd, Gŵyl Fwyd Cymru wedi cadarnhau fod mwy nac erioed o gynhyrchwyr bwyd a diod yn bresennol eleni ar y 3ydd a’r 4ydd o Fedi 2011.

Mae’r ŵyl sy’n cael ei chynnal yng ngerddi hyfryd Neuadd Glansevern, ger y Trallwm, Powys yn denu dros 100 o’r cynhyrchwyr gorau gan gadarnhau mae hon yw’r ŵyl fwyd a diod fwyaf yn y Canolbarth a’r gororau.Yn ogystal ac ystod eang o stondiniau, bydd cogyddion enwog yn cynnwys Dudley yn dangos ei sgiliau coginio ac hefyd bydd nifer o weithgareddau i bob aelod o’r teulu i fodloni pawb o bob oed.

Dywedodd Bernard Harris, Cadeirydd Gŵyl Fwyd Cymru: “Mae’r ŵyl wrth fodd calon pob aelod o’r teulu ac mae’r lleoliad hudol yng ngerddi Neuadd Glansevern yn ei gwneud yn un o’r gwyliau mwyaf poblogaidd yng Nghymru gyfan.

"Mae yma rhywbeth i danio nwyd pawb bydded y sesiynau coginio gyda’r cogyddion adnabyddus, y gweithgareddau ymarferol i blant neu y cyfleoedd i fwynhau cerddoriaeth fyw neu gweld dawnsio wrth y llyn. Mae ymwelwyr yn sicr o gael diwrnod wrth eu bodd ac o wir fwynhad I bob aelod o’r teulu”

Y prif atyniadau yw:

Dros 100 o gynhyrchwyr yn dangos y c?g, picl, caws, gŵin, cwrw, siocled, pysgod a choffi gorau yng Nghymru

Y cogydd teledu Dudley a chogyddion lleol fel Sam Regan, Royal Oak, Trallwm a Stephanie Borie, y Checkers, Trefaldwyn yn paratoi bwyd i dynnu dŵr i ddanedd

Yr arbennigwr gŵin Charlotte Bass o Tanners Wines yn rhoi cymorth ar sut i ddewis y gwinoedd gorau i’w mwynhau efo prydiau

Bydd cyfleoedd i arddwyr ifanc beintio eu potiau a dysgu mwy am arddio a chompostio gyda’r clwb plant, ‘Acorn Gardening Club’ a’r ‘Shropshire composters’

Mae llwybr antur newydd sbon i blant wedi ei lansio ac mae hwn yn rhoi cyfle i blant ddarganfod cilfannau dirgel gerddi Neuadd Glansevern

Mae perfformiadau dawnsio a cherddorol yn cael eu cyflwyno gan Ddawnswyr Llangadfan, band a dawnsio stepio o Appalachia a cherddoriaeth linnynol acherddoriaeth brês gan Emma Spandrzyk a’r Four Tissimo

I ymwelwyr a chwant am rywbeth arbennig, bydd Bwydtŷ’r Walls, Croesoswallt yn darparu profiad bwyta o ansawdd uchel yn y babell ger y llyn.

Caiff pawb sy’n mynychu’r ŵyl gyfle i fforio’n hamddenol drwy erddi Neuadd Glansevern sy’n ymestyn i 25 erw ac yn eu gwneud yn un o erddi mwyaf Cymru.

Mae’r ŵyl yn cael ei chefnogi gan Glanserven Hall Gardens, Tanners, Ynni Pickstock, Wynnstay, Cyfreithwyr Harrisons, Country and Border Life, Hufenfa De Caernarfons ,The Co-operative , Whittingham Riddell LLP, Exwavia, Bwydydd Anifeiliaid Lloyd’s, Canolfan Organig Cymru, Ailgylchu Potters, Whittingham Riddell LLP a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.welshfoodfestival.co.uk neu Facebook ar http://www.facebook.com/event.php?eid=136875893070854

Rhannu |