Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mai 2017

Elin Fflur i gloi Llwyfan y Maes yn Eisteddfod Môn

Mae’r Eisteddfod wedi cyhoeddi’r lein-yp ar gyfer Llwyfan y Maes yn yr ŵyl eleni.

Eden sydd wedi hawlio slot holbwysig nos Wener ar y Llwyfan, ac mae’r merched wedi addo perfformiad bythgofiadwy a hollwych, wrth iddyn nhw ddathlu 21 mlynedd ers rhyddhau’u halbwm cyntaf.

Uchafbwynt arall nos Wener fydd perfformiad ‘Lleden’, sef Tara Bethan, Sam Roberts, Rhys Jones, Heledd Watkins a Wil Roberts.

Bydd y grŵp yn perfformio set arbennig fel rhan o ddathliadau #maesb20, yn llawn caneuon gan fandiau o bob oed dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, gydag anthemau gan sêr fel Yws Gwynedd, Genod Droog, Sibrydion, Swci Boscawen, Euros Childs a Jarman i gyd yn cael eu gwau drwy’i gilydd i greu perfformiad pop perffaith i ddathlu pen-blwydd pwysig Maes B.

Mae digon o flas lleol yn yr amserlen hefyd, gyda chorau a grwpiau o Fôn fel Fleur de Lys a Cordia i’w gweld yn perfformio, a phwy well i gloi Llwyfan y Maes yn Eisteddfod Môn nos Sadwrn nag Elin Fflur a’i band.

Yn wreiddiol o Lanfairpwll, ffrwydrodd Elin ar y sîn wrth ennill Cân i Gymru nôl yn 2002.  Ers hynny, mae wedi rhyddhau dau albwm poblogaidd arall; ac mae’i dawn berfformio naturiol a’i llais unigryw wedi sicrhau’i lle fel un o ddoniau mawr ei chenhedlaeth, a hi yw’r dewis perffaith i ddod â’r ŵyl i ben eleni.

Wrth gwrs, mae ffefrynnau mawr Llwyfan y Maes yn mynd i fod yn perfformio - Geraint Lovgreen, Band Pres Llareggub a Cowbois Rhos Botwnnog, heb anghofio cyflwynwyr a chymeriadau Cyw oddi ar S4C ar gyfer y plantos lleiaf.

Mae’r trefnwyr hefyd wedi cryfhau’r lein-yp ar y penwythnos cyntaf, ac mae’r dydd Sadwrn yn sicr o apelio at gefnogwyr cerddoriaeth Gymraeg.  Moniars, John ac Alun, Wil Tân a Calfari fydd i’w gweld ar y Llwyfan gan sicrhau dechrau gwych i’r wythnos.

Roedd Maffia Mr Huws yn un o fandiau Cymraeg mwyaf eu cyfnod yn yr 80au, gan ysbrydoli cenhedlaeth o gerddorion.

Ac maen nhw’n ôl eleni, gyda’u prif leisydd gwreiddiol, Hefin Huws - cyfle i’w gweld nhw ar eu gorau felly ac ail-fyw'r dyddiau da gyda thalp go fawr o nostalgia ar y pnawn Sadwrn olaf.

Gyda rhai o enwau mwyaf cyffrous y sîn hefyd yn perfformio, gan gynnwys Candelas, Sŵnami, Alys Williams, Alun Gaffey a HMS Morris, mae’n sicr o fod yn ddathliad eclectig o gerddoriaeth ar ei gorau, a hyn oll yn awyrgylch unigryw'r Eisteddfod.  Dewch atom i ymlacio yn haul a hwyl y Maes mewn tri mis.

Rhannu |