Mwy o Newyddion
Newid amserlen S4C yn dod ag omnibws Pobol y Cwm yn ôl
Mi fydd omnibws wythnosol Pobol y Cwm yn cael ei dangos ar S4C unwaith eto, yn rhan o nifer o newidiadau sy'n digwydd ar ddechrau mis Mai.
Mae'r omnibws - gydag isdeitlau ar y sgrin - yn gyfle i ddal fyny â holl straeon yr opera sebon, sy'n gynhyrchiad gan BBC Cymru.
Mae'r omnibws yn wasanaeth newydd, yn lle'r ailddarllediadau dyddiol sydd, ar hyn o bryd, am 6.00 bob nos Lun i nos Wener.
Ymhlith y newidiadau eraill i amserlen S4C, o fore Llun 1 Mai, mi fydd cyfle i blant bach godi'n gynt yng nghwmni Cyw, gyda'r rhaglenni yn dechrau am 6.00 bob bore.
Yna bydd bwletinau Newyddion a Thywydd rheolaidd ar ddyddiau'r wythnos - am 1.00, 2.00, 3.00 a 6.00 – ac mae'r rhaglen newyddion Ffeil i bobl ifanc yn symud i 5.00.
Mae'r dewis i newid agweddau o'r amserlen ddyddiol yn ymateb i ddymuniadau gwylwyr, meddai Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C, Amanda Rees.
"Wrth adolygu adborth ein gwylwyr buon ni'n ystyried pa newidiadau oedd yn bosib er mwyn ymateb i'w dymuniadau.
"Am fod gemau rygbi byw bellach wedi symud i nos Sadwrn, mae hynny wedi agor amser i ni ar brynhawn Sul.
"Mae wedi rhoi cyfle i ni edrych o'r newydd ar ailddarllediadau Pobol y Cwm ac ymateb i wylwyr sydd wedi gweld eisiau'r Omnibws bob dydd Sul.
"Mae symud Cyw i 6.00 y bore yn ymateb i sylwadau rhieni â phlant bach, oedd yn credu ei fod yn drueni nad oedd Cyw ar gael yn gynharach yn y bore.
"Ac ry' ni'n falch o ymestyn ein gwasanaethau Newyddion a Thywydd er mwyn darparu diweddariadau cyson, eto yn ymateb i sylwadau gwylwyr oedd am weld rhagor o newyddion yn ystod y dydd."
Bydd y newidiadau yn digwydd o 1 Mai ymlaen, ac am 5.30 ar nos Sul 7 Mai yw'r cyfle cyntaf i ddal fyny â holl benodau Pobol y Cwm yn yr omnibws.
Mae'r holl raglenni ar gael i'w gwylio ar alw, gydag isdeitlau Cymraeg neu Saesneg, ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill.
O ganlyniad mi fydd amseroedd darlledu rhai rhaglenni eraill yn newid, yn cynnwys Dechrau Canu Dechrau Canmol sydd nawr am 7.30 bob nos Sul. Gallwch weld yr amserlen newydd ar-lein ar s4c.cymru
Llun: Ymunodd Bryn Fôn a’r cast ym mis Mawrth 2017, yn chware rôl Dr Elgan Jones