Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Ebrill 2017

Edrych ar ragor o welliannau i’r A55

Mae Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates, wedi comisiynu astudiaeth gydnerthedd i edrych ble y gellir gwneud rhagor o welliannau i’r A55.

Yn y misoedd a’r blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwelliannau sylweddol i’r ffordd, ond roedd Ysgrifennydd yr Economi yn awyddus i bwysleisio bod angen gwneud mwy gan ei bod yn ffordd allweddol ar draws gogledd Cymru a thu hwnt. 

Meddai: “Fis diwethaf, gwelsom ben llanw pedair mlynedd o waith pwysig tu hwnt i wella’r twneli ar  yr A55, yn ogystal â gwelliannau diweddar i wyneb y ffordd, lliniaru llifogydd a gwaith cynnal a chadw brys. 

"Wedi cwblhau’r gwelliannau hyn, bydd yn bosibl gwneud yr holl waith cynnal a chadw a gwella dros nos, pan fydd cyn lleied â phosib o darfu. 

"Rwyf wedi datgan yn glir mai dim ond gwaith brys fydd yn tarfu ar deithwyr yn ystod y dydd yr haf hwn, gan wahardd unrhyw waith ar y ffordd yn ystod y dydd rhwng Cyffordd 11 a’r ffin â Lloegr tan fis Medi o leiaf. 

“Mae’r buddsoddiad i wella cyflwr ein ffyrdd a’r gwaith mawr posibl sydd gennym ar y gweill i leihau’r tagfeydd ar y rhwydwaith yn gwella’r profiad i deithwyr ar hyd yr A55 yn fawr. 

"Rwy’n benderfynol, fodd bynnag, i edrych y tu hwnt i’r ymyraethau hyn, gan sicrhau bod teithiau ar hyd yr A55 mor ddibynadwy â phosib - gan ddarparu ar gyfer pobl leol, busnesau ac ymwelwyr fel ei gilydd.

"Bydd yr astudiaeth gydnerthedd yr wyf yn ei chomisiynu yn helpu i benderfynu ar y ffordd orau o gyflawni hyn. 

“Fy mwriad yw edrych eto ar bob agwedd ar y ffordd, gan nodi ble a sut i wella’r profiad i deithwyr yn y ffordd orau, a sut i sicrhau bod llai o ddamweiniau a bod cerbydau sy’n torri i lawr yn cael llai o effaith ar y traffig.

"Bydd hyn yn ategu’r gwaith presennol i wella’r ffordd tra’n parhau i sicrhau bod cyn lleied â phosib o darfu oherwydd gwaith ar y ffordd. 

“Mae dros 70,000 o geir yn defnyddio rhannau o’r A55 ar amseroedd brig, a bydd yr astudiaeth hon yn helpu Llywodraeth Cymru i barhau i wneud gwelliannau, gan sicrhau bod yr A55 yn ymdopi â’r galw ac yn helpu i hwyluso economi gref yng ngogledd Cymru, economi sy’n edrych i’r dyfodol.” 

Bydd yr astudiaeth gydnerthedd yn edrych ar y rhwydwaith cyfan o Gaergybi i gyffordd y Post House, a’r bwriad yw cwblhau cam cyntaf y gwaith ddiwedd yr haf, gan arwain at yr amserlen bresennol ar gyfer y gwelliannau sydd i ddechrau ym mis Medi.  
 

Rhannu |