Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Ebrill 2017

Beirniadu Corbyn am 'chwifio’r faner wen' trwy wrthod dadleuon teledu’r arweinwyr

Mae Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi beirniadu Arweinydd y Blaid Lafur wedi i ffynonellau yn agos ato gadarnhau na fydd yn cymryd rhan mewn unrhyw ddadleuon arweinwyr ar y teledu os bydd y Prif Weinidog Theresa May hefyd yn gwrthod.

Dywedodd Leanne Wood ei bod yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn Nadleuon yr Arweinwyr ar y teledu, gan iddi wneud hynny yn 2015 ac at "godi’r faner dros Gymru".

Dywedodd ei bod yn siomedig gweld Jeremy Corbyn eisoes yn "chwifio’r faner wen" wythnos yn unig wedi cyhoeddi’r etholiad, yn hytrach na bod yn barod i ddefnyddio’r llwyfan i godi llais yn erbyn y Prif Weinidog Torïaidd a record ddamniol ei phlaid.

Meddai: "Mae’n siomedig clywed nad yw Arweinydd y Blaid Lafur yn barod i gymryd rhan mewn unrhyw Ddadleuon Arweinwyr ar y teledu heb y Prif Weinidog.

"Mae’r dadleuon hyn yn gyfle da i bobl ymwneud â’r etholiad ac i’r arweinwyr gyflwyno eu gweledigaeth i’r pleidleiswyr.

"Maent yn gyfle hefyd i arweinwyr y pleidiau herio record y lleill -naill ai mewn llywodraeth neu fel gwrthbleidiau.

"Trwy gefnu ar graffu a gwrthod cymryd rhan mewn dadleuon, mae’r Prif Weinidog wedi rhoi gôl agored i Arweinydd yr Wrthblaid honedig.

"Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod Llafur yn dal yn rhy brysur yn ymladd ei gilydd i ganolbwyntio ar ymladd yn erbyn y Torïaid.

"O ystyried record ddamniol y Torïaid o doriadau llym, bygythiadau i bensiynau a newidiadau creulon i’r gyfundrefn les, fe fuasech yn disgwyl i unrhyw arweinydd sy’n honni cynrychioli dewis arall blaengar i gydio yn y cyfle â’i ddwy law. Nid dyma wnaeth Llafur wan a rhanedig.

"Tra bod Arweinydd y Blaid Lafur yn chwifio’r faner wen a dim ond wythnos o ymgyrch yr etholiad wedi mynd heibio, rwyf i’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y dadleuon hyn a chodi’r faner dros Gymru unwaith eto."

Rhannu |