Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Ebrill 2017

Penodi Y Deon June Osborne yn Esgob Llandaf newydd

Un o'r arweinwyr eglwys amlycaf a mwyaf profiadol yn ym Mhrydain fydd Esgob nesaf Llandaf.

Dewiswyd June Osborne, a wasanaethodd fel Deon Salisbury am y 13 mlynedd diwethaf, yn 72ain Esgob Llandaf, esgobaeth sy'n gwasanaethu'r rhan fwyaf o Gaerdydd, Cymoedd De Cymru a Bro Morgannwg.

Yn ffigur a dorrodd dir newydd yn Eglwys Lloegr, y Deon June oedd y fenyw gyntaf i'w phenodi'n Ddeon cadeirlan hynafol, ar ôl gwasanaethu fel Canon Drysorydd Cadeirlan Salisbury am bron 10 mlynedd.

Bu'n weithgar ym mywyd cenedlaethol Eglwys Lloegr, gan wasanaethu am flynyddoedd lawer ar Bwyllgor Sefydlog y Synod Cyffredinol, yn cynnwys eistedd ar y panel cadeiryddion.

Gwnaed y cyhoeddiad heddiw (27 Ebrill) gan Esgobion yr Eglwys yng Nghymru a ddaeth yn gyfrifol am benodiad Esgob Llandaf pan na sichraodd unrhyw ymgeisydd a enwebwyd yn y Coleg Etholiadol ym mis Chwefror ddigon o bleidleisiau i gael ei ethol.

Cadarnheir y penodiad mewn cyfarfod o'r Synod Sanctaidd ar 14 Gorffennaf a chaiff y Deon June ei chysegru fel Esgob yng Nghadeirlan Aberhonddu ar 15 Gorffennaf.

Wrth groesawu ei phenodiad, dywedodd Uwch Esgob yr Eglwys, Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Davies: "Yn June Osborne, bydd yr Eglwys yng Nghymru a hefyd Esgobaeth Llandaf yn canfod iddynt gael bendith gyfoethog.

"Mae hanes llwyddiant June yn dangos yn rhagorol ei hangerdd dros weinyddiaeth Gristnogol a luniwyd ar hanfodion yr Efengyl o gariad, cyfiawnder, cynhwysiant ac agoredrwydd.

"Mae'r cyfan hyn yn nodweddion yr wyf i a fy nghyd-esgobion yn eu cefnogi a'u croesawu'n gynnes.

"Caiff ei hadnabod fel arweinydd gyda gweledigaeth glir, calon fugeiliol a meddwl strategol, sydd i gyd yn  cymeradwyo'r Eglwys i'r gymuned ehangach.

"Yn y ffordd hon a thrwy ei haddysgu, ei phregethu a'i harweinyddiaeth, mae'n dangos ei hunan yn rhywun rwy'n hyderus a all roi arweinyddiaeth a goruchwyliaeth ardderchog i Esgobaeth Llandaf.

"Rwy'n edrych ymlaen yn frwd at iddi ddod i'n plith a'i chyfraniadau i waith y Fainc Esgobion."

Dywedodd y Deon June: "Mae'n fraint enfawr cael fy enwebu fel Esgob Llandaf, swydd hynafol gyda llawer o ragflaenwyr o fri.

"Bydd yn rhyw fath o ddod adref i'r teulu, yn arbennig oherwydd gan fod fy ngŵr yn hanu o Gaerdydd ac mae'n lle yr ydym yn ei adnabod ac yn ei garu.

"Mae arwain esgobaeth mor amrywiol mewn ardal sy'n hanesyddol a hardd, yn her ond mae gen i archwaeth enfawr am y dasg ac mae'n anrhydedd mawr i mi gael cyfle i ymuno â thîm esgobaeth, sy'n gryf a dychmygus.

"Mae'r rhain yn gyfnodau helbulus ar draws y byd ac ni fu'r angen am ffydd ac am arweinyddiaeth hyderus, neilltuol yr Eglwys erioed yn bwysicach.

"Byddaf, wrth gwrs, yn drist i ffarwelio â Salisbury. Bu'n gartref i mi, yn ysbrydol a hefyd fel teulu, am dros ddau ddegawd.

"Cefais fy amgylchynu gan gydweithwyr, staff a gwirfoddolwyr bendigedig, a wnaeth fy swydd yn waith llawen.

"Bu'n bleser mawr gweld sut y datblygodd ac y ffynnodd y Gadeirlan dros y blynyddoedd ac i rannu ein dathliadau Magna Carta 800 gwych.

"Rwy'n falch eithriadol o'r hyn a gyflawnwyd yma ac yn dymuno'n dda i bawb yn y Gadeirlan a'i hesgobaeth ar gyfer y blynyddoedd i ddod."

Dywedodd Esgob Salisbury, Nicholas Holtam, fod June yn "Ddeon rhagorol".

Dywedodd, "Mae June Osborne yn un o glerigwyr blaenllaw Eglwys Lloegr. Am y 13 mlynedd ddiwethaf bu'n Ddeon rhagorol yn Salisbury. Gwnaeth gyfraniadau sylweddol i Eglwys Lloegr yn ehangach yn cynnwys helpu i drefnu'r grŵp Leading Woman a fu'n ddylanwadol tu hwnt wrth dyfu menywod i swyddi arweinyddiaeth yn yr Eglwys.

"Rwy'n hynod falch iddi gael ei phenodi'n Esgob Llandaf. Bydd holl Esgobaeth Salisbury yn ymuno â mi yn diolch iddi am ei chyfraniad enfawr i'r Esgobaeth hon a wasanaethodd am 22 mlynedd.

"Dymunwn yn dda iddi fel Esgob Llandaf a gweddïwn drosti hi a'i theulu wrth iddynt baratoi ar gyfer popeth sydd i ddod."

Yn un o'r menywod cyntaf i gael ei hordeinio fel offeiriad yn Llundain yn 1994, ar ôl bod yn Ddiacones ers 1980, nodweddwyd gweinidogaeth y Deon June gan ei hangerdd am gydraddoldeb ac amrywiaeth ac roedd yn un o sefydlwyr rhaglen Leading Women yr Eglwys.

Mae ganddi gonsyrn dwfn am dlodi byd-eang a bu'n gweithio gydag Eglwys Esgobol Sudan ar iechyd, addysg ddiwinyddol ac eiriolaeth. Mae'n dal i fod â rôl allweddol yn ymrwymiad y Cymun Anglicanaidd i weithredu Nodau Datblygu'r Mileniwm, ac mae'n aelod o Banel Ymgynghori'r Llywodraeth ar gyfer coffau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Bydd y Deon June yn dathlu ei dydd Sul olaf yng Nghadeirlan Salisbury ar 9 Gorffennaf. Caiff ei chysegru yng Nghadeirlan Aberhonddu ar 15 Gorffennaf a'i gorseddu yng Nghadeirlan Llandaf wythnos yn ddiweddarach (22 Gorffennaf).

CEFNDIR

Enillodd y Deon June radd yn y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Manceinion, a hyfforddodd ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Sant Ioan, Nottingham a Neuadd Wycliffe, Rhydychen.

Fe'i penodwyd yn Ddiacones yn 1980 a bu'n gwasanaethu yn St Martin-in-the-Bullring yn Birmingham cyn symud i blwyfi Old Ford yn nwyrain Llundain yn 1984.

Ar ôl ei hordeinio'n offeiriad bu'n gwasanaethu fel Canon Drysorydd yng Nghadeirlan Salisbury a bu'n Ddeon Gweithredol Salisbury am ddwy flynedd cyn cael ei phenodi'n Ddeon yn 2004.

Yn ystod ei chyfnod yn Salisbury, mae'r Deon June wedi goruchwylio mwyafrif Rhaglen Atgyweiriadau Mawr 30-mlynedd y Gadeirlan o waith hanfodol i adfer ffabrig y Gadeirlan a'i diogelu ar gyfer y dyfodol.

Fel Canon Drysorydd a Deon roedd yn ganolog wrth gomisiynu bedyddfaen William Pye.

Mewn Cadeirlan a fu'n aml yn flaengar ac sydd eisoes wedi sefydlu'r côr genethod cyntaf mewn cadeirlan yn Lloegr, bu'n hyrwyddo sefydlu Esgob Corydd genethod yn 2015, y Gadeirlan gyntaf i wneud hynny.

Bu ganddi rôl bwysig yn nathliadau Magna Carta 800 ddwy flynedd yn ôl, gan fwynhau'r amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau a drefnwyd gan y Gadeirlan y flwyddyn honno. Bu hefyd yn ddirprwy raglaw Wiltshire.

Mae'r Deon June yn briod â'r bargyfreithiwr Paul Goulding CF ac mae ganddynt ddau o blant, Megan a Tom. Mae ei diddordebau'n cynnwys pêl-droed ac mae'n gefnogwr oes i Manchester City, ei thîm cartref.

Llun: Y Deon June Osborne (Ian Berry, Magnum)

Rhannu |