Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Ebrill 2017

Gwaith yn dechrau ar faes Eisteddfod Pencoed

MAE’R dywarchen gyntaf wedi ei thorri ar dir Campws Pencoed, Coleg Pen-y-bont i nodi dechrau’r gwaith o adeiladu Maes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái. 

Dyma fydd y tro cyntaf i’r Eisteddfod ymweld â’r ardal er 1991, pan gafodd ei chynnal yn Nhonyrefail.  

Bydd yn cael ei chynnal eleni 29 Mai – 3 Mehefin.

Bydd yn cymryd pum wythnos i gael y safle yn barod ar gyfer y 90,000 o ymwelwyr a ddisgwylir ar y safle ddiwedd Mai. 

Amcangyfrifir fod ymweliad gan yr Eisteddfod, gan gynnwys y buddsoddiad yn y Maes ei hunan, yn cyfrannu tua £6 miliwn i’r ardal leol ac yn ôl ymchwil gan y trefnwyr, mae 78% o’r ymwelwyr yn gwario arian mewn busnesau lleol.

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd cyfle i weld 15,000 o blant a phobl ifanc yn cystadlu mewn cystadlaethau yn amrywio o ganu, actio a dawnsio i drin gwallt a choginio.

Yn ogystal â’r cystadlu, bydd gweithgareddau megis sesiynau chwaraeon, wal ddringo, sioeau i blant, ffair, cerddoriaeth fyw a dros 80 o stondinau yn cynnig gweithgareddau ac yn gwerthu nwyddau amrywiol ar y Maes.

Gyda’r nos, bydd cyngherddau, sioeau a chystadlu gyda sêr megis Sophie Evans ac Only Boys Aloud yn perfformio yn y cyngerdd agoriadol nos Sul (28 Mai). 

Bydd dros 260 o blant a phobl ifanc ardal Pen-y-bont yn perfformio mewn dwy sioe gerdd  – yr un gynradd, Bracchi, nos Fawrth (30 Mai) yn y pafiliwn a’r criw uwchradd yn perfformio Y Ferch o Gefn Ydfa nos Sadwrn (27 Mai) a nos Lun (29 Mai) yn Theatr Sony, Coleg Pen-y-bont.

Mae criw o wirfoddolwyr lleol wedi bod yn codi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer yr Eisteddfod er dwy flynedd, dan arweinyddiaeth Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol, Tegwen Ellis.

Meddai: “Mae’r gefnogaeth gan y bobl leol wedi bod yn wych wrth iddynt drefnu gweithgareddau amrywiol i godi arian a chodi ymwybyddiaeth yn eu cymunedau. 

“Mae nifer o’r bobl leol yn cofio Eisteddfod Maesteg ym 1979, ac maen nhw ymysg  llawer iawn o drigolion yr ardal sy’n edrych ymlaen at groesawu plant a phobl Cymru nôl i’r dalgylch.”

Ychwanegodd Aled Siôn, cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd: “Mae’n amser cyffrous iawn pan fydd y gwaith yn dechrau ar y Maes, a’r criw adeiladu yn dechrau ar eu gwaith. 

“Mae’n anhygoel beth y gallan nhw ei gyflawni mewn pum wythnos yn trawsnewid cae gwyrdd yn safle gweithredol yn barod i groesawu ieuenctid a theuluoedd o bob cwr o Gymru.”

Rhannu |