Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Ebrill 2017

Merch fach ysbrydoledig yn anelu i godi £100,000 i ddiolch am driniaeth ei thad

YN ôl ym mis Mai 2015 fe benderfynodd merch fach bump oed o Sir Benfro ei bod eisiau codi arian i’r ward wnaeth drin ei thad o gancr. 

Roedd yn gobeithio codi £50 ac erbyn hyn mae’n agosáu at swm anhygoel o £100,000

Dechreuodd Elly Neville godi arian i ddweud diolch yn fawr i Ward 10 Ysbyty Llwynhelyg, Sir Benfro, am y driniaeth a roddwyd i’w thad Lyn.

Cafodd Lyn Neville trawsblaniad yn 2005 a threuliodd lawer o amser yn Ward 10.

Penderfynodd Elly ei bod am godi arian i helpu i roi bywyd newydd i’r ward.

Meddai Elly: “Rwy’n codi arian i Ward 10 am fy mod eisiau i’r nyrsys allu prynu’r hyn sydd ei angen ar gyfer pobl yn yr ysbyty.

“Hoffwn iddyn nhw gael clustogau lliwgar a blancedi fflyffi i gadw’r cleifion yn gyffyrddus.

“Fe helpodd y nyrsys fy nhad pan oedd yn sâl a dwi eisiau dweud diolch iddyn nhw am hynny.”

Mae Elly, sy’n mynychu Ysgol Gynradd Gymunedol Penfro wedi codi dros £80,000 ac mae hi’n gobeithio bwrw mlaen i godi £100,000.

Yn ystod y ddwy flynedd mae Elly wedi dod yn llysgennad cyfarwydd yn ei chymuned gan gyfarfod ag enwogion di-ri, mynychu ciniawau o bob math a chael medal yn Nhŷ’r Arglwyddi ym mis Hydref.

Meddai Lyn Neville: “Pan ddechreuom nôl ar y 1af o Fai 2015 roeddem ond yn bwriadu codi £50 ond dechreuodd y bêl rowlio ac fe dyfodd ar garlam.

“Mae’r arian yn mynd tuag at wella profiad y claf.

“Ry’n ni’n credu’n gryf mewn sicrhau bod cleifion mor gyffyrddus â phosib yn yr ysbyty.

“Mae Elly’n mwynhau’r gwaith ymgyrchu ar hyn o bryd a byddwn yn parhau tra’i bod hi’n hapus.

“Ry’n ni’n deulu bach sy’n trio gwneud gwahaniaeth mawr i wasanaethau cancr."

Meddai Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Dechreuais ar y daith gydag Elly ddwy flynedd yn ôl a hoffwn ddweud diolch yn fawr iddi hi a’u theulu am eu gwaith arbennig.

“Mae hi wedi cyflawni cymaint yn ystod y ddwy flynedd ac mae ei brwdfrydedd a’i hegni yn heintus. 

“Rydym yn gwerthfawrogi gwaith tîm Elly yn fawr a fydd yn parhau i’n helpu i wella gwasanaethau cancr yn Ysbyty Llwynhelyg.” 

Os hoffech gyfrannu i’r apêl, gallwch wneud hynny drwy’r dudalen Just Giving: https://www.justgiving.com/fundraising/ward10flag

Rhannu |