Mwy o Newyddion
Craffu ar 100 diwrnod cyntaf Trump
Mae Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn cynnal trafodaeth ford gron arbennig i asesu 100 diwrnod cyntaf Donald Trump yn y Tŷ Gwyn.
Caiff y drafodaeth ei chynnal ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais am 6yh nos Lun 1 Mai. Mae mynediad am ddim ac mae croeso i bawb.
Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus sydd wedi eu trefnu gan yr Adran i fanylu ar rai o bynciau mawr y dydd, yn eu plith arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau a Brexit.
Dywedodd yr Athro Richard Bearsdworth, Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth: “I unrhyw un sy’n dilyn gwleidyddiaeth yr UDA, mae’r 100 diwrnod ers i Donald Trump ddod i rym wedi bod yn hynod ddiddorol.
“Rydyn ni wedi gweld newid safbwynt sylweddol ar ystod o faterion polisi tramor megis ymosodiadau awyr ar Syria, agweddau at NATO a chysylltiadau gyda Tsieina.
"Mae’r drafodaeth ford gron yma yn gyfle i ni bwyso a mesur dyddiau cynnar yr Arlywydd; i geisio deall trywydd y Tŷ Gwyn o dan Trump, ac i ystyried y goblygiadau ar gyfer y gymuned ryngwladol.”
Bydd y panel o arbenigwyr o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn cynnwys:
- Dr Jeff Bridoux, Darlithydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol
- Dr Warren Dockter, Darlithydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol
- Dr Jenny Mathers, Darllenydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol
- Dr Gillian McFadyen, Darlithydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol
- Dr Jan Ruzicka, Darlithydd mewn Astudiaethau Diogelwch