Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Ebrill 2017

YesCymru - 'Mae brys newydd i’n hymgyrch dros annibyniaeth i Gymru'

Fel un o'r mudiadau sifig sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru, mae YesCymru wedi croesawu’r ffaith y bydd Etholiad Cyffredinol ledled y Deyrnas Unedig yn digwydd yn fuan, gan ddweud ei fod yn gyfle newydd i roi Annibyniaeth Cymru ar yr agenda wleidyddol.

Meddai Iestyn ap Rhobert, Cadeirydd YesCymru: “Mae Brexit wedi newid popeth. Mae'n debygol mai Llywodraeth Geidwadol fydd gyda ni eto am gyfnod hir – llywodraeth heb ei hethol gan Gymru, yn gwanhau datganoli yn lle'i gryfhau, ac yn cyflwyno polisïau sy'n groes i werthoedd Cymru.

"Mae brys newydd i’n hymgyrch dros annibyniaeth i Gymru.

“Rydyn ni'n gwybod y bydd Annibyniaeth i’r Alban a chreu Iwerddon Unedig yn faterion pwysig yn yr etholiad hwn.

"Er mwyn sicrhau nad yw Cymru'n cael ei hanghofio, bydd YesCymru yn gweithio yn ystod yr ymgyrch etholiadol gydag aelodau o bob blaid – a rhai di-blaid – sy'n cefnogi annibyniaeth i Gymru.

"Rydyn ni'n galw ar bob plaid wleidyddol i edrych eto ar annibyniaeth yn lle cadw at syniadau hen ffasiwn sy'n mygu ein potensial fel gwlad.

“Bydd YesCymru hefyd yn ymgyrchu ar y cyd gyda grwpiau o blaid annibyniaeth yn yr Alban a Gogledd Iwerddon i wneud yr achos ehangach bod angen creu strwythurau gwleidyddol newydd ar draws Ynysoedd Prydain ac Iwerddon.”

Rhannu |