Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Ebrill 2017

Scouting for Girls, Lightning Seeds a Toploader i serennu yng ngŵyl awyr agored y Bala

Bydd y bandiau roc enwog Scouting for Girls, The Lightning Seeds a Toploader yn serennu yn Ŵyl Awyr Agored gyntaf Eryri yn Y Bala ym mis Awst, gyda mwy o enwau mawr i’w cyhoeddi yn fuan.

Mae SFG fwyaf adnabyddus am gyrraedd rhif 1 yn siartiau’r DU gyda’r gân She’s So Lovely ac mi gafodd Toploader lwyddiant rhyngwladol gyda’u cân Dancing In The Moonlight, tra bo The Lightning Seeds fwyaf enwog am eu hanthem bêl-droed Three Lions a gyrhaeddodd rhif un yn y siartiau ar ddau achlysur.

Mae’r tocynnau ar gyfer yr ŵyl tri diwrnod i’r teulu cyfan, fydd yn cynnig llond gwlad o chwaraeon awyr agored a cherddoriaeth fyw, newydd fynd ar werth yr wythnos hon, ac mae’r wefan http://www.snowdonia-outdoorfestival.co.uk/cymraeg/ hefyd bellach yn fyw gyda disgwyl i hyd at 10,000 o bobl heidio i leoliad godidog Llyn Tegid ger Y Bala, o ddydd Gwener, Awst 11 tan ddydd Sul, Awst 13.

Mi gafodd SFG a Toploader dderbyniad gwefreiddiol y llynedd yng Ngŵyl Mynydd Keswick, sydd hefyd yn cael ei threfnu gan gwmni Brand Events, un o brif drefnwyr digwyddiadau y DU, ac sydd hefyd yn gyfrifol am drefnu Gŵyl Awyr Agored Eryri.

Maent ymhlith yr enwau mwyaf poblogaidd ar y gylchdaith gwyliau cerddorol gyda SFG yn chwarae yng ngŵyl fawr Ynys Wyth yr haf eleni a Toploader yn rhyddhau albwm newydd hir ddisgwyliedig ym mis Mai.

Yn ymuno â nhw y mae’r Lightning Seeds, dan arweiniad y chwedlonol Ian Broudie a ddaeth i amlygrwydd pan ymunodd â’r ddau ddigrifwr David Baddiel a Frank Skinner ar gyfer yr anthem bêl-droed enwog, Three Lions a lwyddodd i gyrraedd brig y siartiau ddwywaith.

Chwaraeodd Broudie gyda’i gyd-sgowsar Holly Johnson yn Big in Japan, ac mae wedi cynhyrchu bandiau fel Echo and the Bunnymen, The Fall, The Coral a The Zutons, tra bod The Lightning Seeds wedi chwarae ar y prif lwyfan yn Glastonbury a Gŵyl V.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Digwyddiad Nicola Meadley: “Rydym yn gyffrous iawn am y cerddorion rydym wedi eu denu i Ŵyl Awyr Agored gyntaf Eryri, ac rydym yn credu y bydd y bandiau yma’n cael derbyniad da gyda’n cynulleidfa.

“Bydd llwyfan wedi ei leoli mewn man arbennig, gyda dyfroedd Llyn Tegid a’r bryniau yn gefndir anhygoel, ac mi ddylai’r awyrgylch yno fod yn ffantastig gyda’r gerddoriaeth yn mynd ymlaen o’r prynhawn tan ganol nos.

“Rydym wedi ceisio dewis perfformwyr fydd yn siŵr o apelio at fynychwyr ein gŵyl ac rydym y gobeithio ychwanegu mwy o enwau i’r rhestr cyn bo hir, gan gynnwys artistiaid a bandiau lleol.”

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Seilwaith sy’n cynnwys Diwylliant, Hamdden a Chwaraeon: “Mae hwn yn gyhoeddiad cyffrous iawn ac mae’n un sy’n asio’n berffaith â Gogledd Cymru, prifddinas chwaraeon antur Ewrop.

“Mae’r Bala yn lleoliad delfrydol gyda thirwedd hudolus, diwylliant Cymraeg bywiog a chroesawgar a chyfleusterau naturiol gwych cefn gwlad, mynyddoedd, afonydd a llynnoedd.

“Mae’r digwyddiad yn cyfuno cyffro ac antur gweithgareddau a chwaraeon awyr agored gyda pherfformwyr  cerddorol trawiadol, ac ar ben hynny gallwch ychwanegu enw da Brand Events o lwyfannu gwyliau sy’n llwyddiannus a pharhaus.”

Mae Heledd Roberts, o Gymdeithas Busnes y Bala, hefyd wedi croesawu’r rhestr o berfformwyr gwych ynghyd â’r cyfleoedd i fusnesau lleol a ddaw i’r ardal yn sgîl yr ŵyl.

Dywedodd: “Mae’r bandiau sydd wedi cael eu cyhoeddi yn anhygoel, a fydd yn siŵr o apelio at amrywiaeth eang o bobl o bob oed yn lleol ac ymhellach i ffwrdd ac yn denu llawer o ymwelwyr i’r ardal.

“Mae hyn yn newyddion cadarnhaol iawn yn ogystal â’r ffaith eu bod yn gwneud defnydd o ddarparwyr gweithgareddau a busnesau lleol, ac mae hynny’n cynnwys yr arlwywyr hefyd.

“Mae llawer o bobl leol wedi holi am y digwyddiad a phan fyddan nhw’n gweld safon y bandiau fydd yma mi fyddan nhw wrth eu boddau.”

Bydd gwersyllwyr yn dechrau cyrraedd safle Fferm Gwernhefin, Llanycil, ger y Bala, sydd wedi ei leoli oddi ar ffordd yr A494 o’r Bala i Ddolgellau, ar y dydd Gwener a bydd y rhaglen gerddoriaeth yn cychwyn y noson honno cyn i’r ŵyl gychwyn go iawn  ar y dydd Sadwrn gyda rhaglen lawn o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd awyr agored.

Mae Brand Events yn un o brif drefnwyr digwyddiadau byw y DU ac yn ogystal â helpu i lwyfannu Gŵyl Mynydd Keswick, fydd yn cael ei chynnal am yr 11eg tro ym mis Mehefin, maent hefyd yn gysylltiedig â sioeau ceir, bwyd a chrefftau ar draws y DU sy’n cynnwys sêr fel Chris Evans y DJ Radio 2, y cogydd enwog Tom Kerridge, a’r frenhines tai a chrefftau llaw Kirstie Allsopp.

Yn ogystal â’r prif faes lle bydd y llwyfan yn cael ei godi ar lan y llyn a nifer o weithgareddau ac arddangosiadau yn cael eu cynnal, bydd cyfleusterau arlwyo ar gael ynghyd â mannau gwersylla a pharcio helaeth gyda’r trefnwyr yn disgwyl 5,000 o bobl i ymweld â’r ŵyl bob dydd.

Bydd y rhan fwyaf yn gwersylla am y penwythnos gyda rhaglen o gystadlaethau chwaraeon awyr agored, siaradwyr a sesiynau blasu a cherddoriaeth fyw o’r prynhawn tan 10.30yh bob nos.

Bydd y digwyddiadau chwaraeon yn cynnwys ystod o lwybrau rhedeg anhygoel, nofio dŵr agored ar y llyn, her beicio mynydd a sportive beicio lôn eiconig.

Mae’r gweithgareddau awyr agored wedi cael eu cynllunio gyda theuluoedd mewn golwg, a byddant yn cynnwys heicio, canŵio, byrddio padlo, cerdded ceunentydd, hwylio, hwylfyrddio, rafftio, nofio, dringo, cerdded a beicio mynydd gyda waliau dringo a bagiau aer wedi eu gosod a sgyrsiau byw yn y gwyllt dringo a gweithgareddau ymarferol eraill hefyd  ar gael.

Mae gan yr Ŵyl le ar gyfer hyd at 3,500 o wersyllwyr i aros ar y safle, gydag oddeutu 1,500 o bobl yn mynychu bob dydd ac yn aros neu’n byw yn lleol.

I brynu tocynnau neu i gael mwy o wybodaeth dylai darllenwyr fynd i http://www.snowdonia-outdoorfestival.co.uk/cymraeg/

Rhannu |