Mwy o Newyddion
								
						17 o lwybrau Eryri i’w gweld o’r newydd ar fapiau Google
O heddiw ymlaen, (13 Ebrill) bydd 17 o lwybrau Eryri i’w gweld o’r newydd ar Google, diolch i Google Street View ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Ers lansio “Street View” yn 2007, bu Google yn teithio ar hyd ac ar led y byd yn tynnu lluniau panoramig 360? o strydoedd y byd, ond ddwy flynedd yn ôl, wedi i’r cwmni ddechrau defnyddio Gogle Trekker i fentro i lefydd oedd yn anhygyrch i gerbydau, ychwanegwyd 11 o lwybrau Eryri at yr adnodd gan gynnwys llwybrau’r Wyddfa sy’n eich arwain at olygfa gorau’r DU.
Yna llynedd, unwaith eto gyda chydweithrediad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, cofnodwyd 17 o lwybrau o’r newydd.
Gyda phecyn 22kg ar eu cefnau a glôb yn cynnwys 15 camera uwch eu pennau, bu gwirfoddolwyr a staff yr Awdurdod yn cofnodi golygfeydd o Eryri ar gyfer Google Street View.
Y tro hwn fodd bynnag, aethpwyd ati i gofnodi amrywiaeth ehangach o lwybrau yn y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys rhai sy’n addas i deuluoedd ac eraill yn addas ar gyfer pawb.
Dywedodd Mair Huws, Pennaeth Adran Wardeiniaid a Mynediad: “Y gwir amdani yw fod gennym gymaint o lwybrau ym mhob cwr o’r Parc Cenedlaethol sy’n addas ar gyfer pob math o alluoedd, ac un o’r manteision i gael adnodd fel y Google Street View ar lwybrau Eryri yw ei fod yn dangos ystod yr amrywiaeth hwnnw.
"Un o fanteision eraill defnyddio Google Street View wrth gwrs yw ei fod o’n rhoi syniad i ni o natur y dirwedd cyn i chi ei gyrraedd, ac felly gall y eich galluogi chi i wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â pha lwybr sy’n addas i chi cyn dechrau ar eich taith.
"Fe fyddai’n wych gweld teuluoedd o bob gallu yn mwynhau’r llefydd arbennig hyn dros y Pasg – mae ‘na rywbeth yma i bawb yn Eryri."
Y llwybrau diweddaraf i’w cofnodi yw:
- Llyn Tegid, Y Bala - De
 - Llyn Tegid, Y Bala – Gogledd
 - Tomen y Mur
 - Abergwyngregyn - Rhaeadr Fawr
 - Llwybr Llanfairfechan
 - Llwybr y Pysgotwr a Chwm Bychan
 - Llyn Dinas
 - Llwybr Ianws
 - Crimpiau
 - Lôn Las Ogwen (Ogwen i Gapel Curig)
 - Llwybr Cynwch
 - Llwybr Cnicht
 - Llwybr Pren Traeth Benar
 - Llwybr Craig y Ddinas
 - Llwybr Llyn Traws
 - Llwybr Afon a Llyn, Y Bala
 - Cylchdaith Croesor
 
Ceir mwy o fanylion am y llwybrau hyn ar wefan yr Awdurdod, http://www.eryri-npa.gov.uk a fideo yn dangos y gwaith cofnodi ar https://www.youtube.com/watch?v=5Vpfx-m3Aok
Llun: Carwyn ap Myrddin yn defnyddio’r Trekker ar lwybr Lôn Gwyrfai
		
							
				






