Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Ebrill 2017

Theatr llawdriniaeth cataractau dros dro yn llwyddiant ysgubol

MAE theatr lawdriniaeth symudol dros dro, sy’n darparu llawdriniaethau cataractau y mae angen dybryd amdanynt i gleifion sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, wedi cael ei disgrifio’n “llwyddiant ysgubol”.

Hyd yma, mae bron 850 o gleifion wedi cael llawdriniaeth ar eu llygaid sydd wedi newid eu bywydau, ac oherwydd llwyddiant y theatr lawdriniaeth, mae ei chyfnod yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd wedi cael ei ymestyn trwy gydol mis Ebrill, er mwyn cwblhau 175 o lawdriniaethau ychwanegol.

Dywedodd Joe Teape, cyfarwyddwr gweithrediadau a dirprwy brif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae hyn wedi bod yn llwyddiant ysgubol sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl â chataractau. 

“Mae’r adborth gan gleifion wedi bod yn gadarnhaol iawn.

“Mae’r holl ganlyniadau allanol cyntaf yn dilyn archwiliadau ôl-lawdriniaeth gan optometryddion wedi dangos gwelliant yng ngolwg y cleifion.”

Cyn i’r llawdriniaethau ddechrau yn yr uned dros dro, roedd yna 1,500 o bobl a oedd wedi aros dros 36 wythnos am lawdriniaeth cataractau.

Mae’r ffigur hwn wedi gostwng yn sylweddol i 350.

Mae’r llawdriniaethau a wneir yn yr uned dros dro yn ychwanegol at y rheiny sy’n parhau i gael eu gwneud yn theatrau parhaol Hywel Dda, sy’n manteisio i’r eithaf ar bob slot posibl sydd ar gael er mwyn lleihau’n sylweddol amseroedd aros ar gyfer llawdriniaeth cataractau yn y dyfodol, a hynny ledled y tair sir.

Rhannu |