Mwy o Newyddion
Dathliadau'r Cob
Mae Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd wedi paratoi detholiad o ddeunydd sy’n ymwneud ag adeiladu’r Cob ym Mhorthmadog - a hynny er mwyn cyd-fynd gyda’r gweithgareddau yn yr ardal i nodi 200 mlwyddiant ers ei adeiladu.
Bydd cyfres o lythyrau gan William Maddocks, sef y gŵr oedd yn bennaf gyfrifol am ddatblygu’r cynllun uchelgeisiol i adeiladau’r Cob tros aber y Glaslyn i’w gweld fel rhan o’r arddangosfa. Bydd eitemau eraill yn cynnwys dogfennau gwreiddiol, a lluniau o’r 19eg ganrif ar gael i’w gweld ar wefan y Cyngor trwy fynd i www.gwynedd.gov.uk/archifau ynghyd ag arddangosfa yn Archifdy Caernarfon rhwng Medi a Thachwedd.
Dywedodd Lynn Crowther Francis, Prif Archifydd Cyngor Gwynedd: “Gyda nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal eleni i nodi 200 mlwyddiant adeiladu’r Cob ym Mhorthmadog, roeddan ni’n teimlo y byddai’n amserol i arddangos rhywfaint o’r eitemau sydd ar gael gan Archifau Gwynedd ac sy’n esbonio pam a sut yr adeiladwyd o.
“Rhagflas yn unig fydd yr eitemau fydd i’w gweld ar y wefan ac yn Archifdy Caernarfon o’r math o wybodaeth sy’n cael ei gadw yn Archifdai Caernarfon a Meirionnydd. Er enghraifft, mae gennym gyfres o ohebiaeth gan William Maddocks yn Archifdy Caernarfon ac wrth gwrs mae modd i aelodau’r cyhoedd wneud cais a chael gweld y deunydd yma.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Roy Owen, sy’n arwain ar archifau i Gyngor Gwynedd: “Rydan ni’n gobeithio y bydd yr arddangosfeydd amserol yma yn annog aelodau’r cyhoedd sydd yn ymddiddori yn hanes lleol i fynd draw i archifdai’r Cyngor yng Nghaernarfon a Dolgellau.
“Mae’r ddau adnodd yn stôr o ddogfennau hanesyddol o bwys sy’n dyddio’n ôl ganrifoedd, gan gynnwys ffotograffau, mapiau, dogfennau a phapurau newydd yn ymwneud a hanes y sir.”
Am ragor o wybodaeth ac i weld y catalog ar-lein ewch i wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.gov.uk/archifau neu ffoniwch (01286) 679 095 Archifdy Caernarfon, (01341) 424 682 Archifdy Meirionnydd.
LLUN: Bydd eitemau fel y darlun yma o William Maddocks i’w gweld fel rhan o’r arddangosfa