Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Ebrill 2017

Dathlu bywyd Tommy Cooper yng Nghastell Caerffili

Bydd Castell Caerffili yn morio chwerthin ar Ddydd Sadwrn, 15 Ebrill wrth gofio un o feibion enwocaf y dref – Tommy Cooper – mewn Gŵyl Hud a Fez a Chomedi.

Fel rhan o raglen brysur gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru (Cadw) dros y Pasg, bydd yr Ŵyl Hud a Fez a Chomedi yn digwydd union dri deg a thair o flynyddoedd ar ôl i’r digrifwr farw o drawiad ar y galon yn fyw ar y llwyfan, ar 15 Ebrill 1984.

Roedd Tommy Cooper yn enwog am driciau hud a fyddai’n mynd o’i le, ac ef yw’r ysbrydoliaeth i’r digwyddiad undydd hwn yn y Castell, a fydd yn dathlu bywyd y digrifwr a anwyd yng Nghaerffili gyda chyfres o sgetsys doniol, sioeau hud a lledrith a hyd yn oed gweithdai creu hetiau fez.

Bydd nifer o berfformiadau comedi yn yr ŵyl gan gynnwys perfformiad arbennig gan y digrifwr lleol, Mike Reid; Tommy Cooper ei hunan sydd wedi ysbrydoli ei sgetsys ef.

Mae cerflun o Tommy Cooper yn ei het fez enwog yn edrych i lawr ar furiau Castell Caerffili a bydd cyfle i’w ddilynwyr fwynhau edrych ar eitemau a chreiriau yn ymwneud ag ef a fydd yn cael eu harddangos yn Neuadd Fawr y Castell.

Fe gofir am Cooper a’i berfformiadau enwog ar lwyfannau, ond gobeithir y bydd y digwyddiad hefyd yn helpu i achub bywydau. Bydd Calonnau Cymru - (mewn cydweithrediad gyda Chymdeithas Tommy Cooper)  - yn cynnal hyfforddiant CPR hollbwysig fel rhan o “Tommy’s Ticker”. Dyma raglen sy’n ariannu offer a hyfforddiant a allai achub bywydau ledled Cymru.

Cynhelir yr ŵyl rhwng 11 y bore a 4 y prynhawn, a chaiff ymwelwyr fwynhau diwrnod cyfan o gomedi, hud a lledrith am bris mynediad arferol i’r safle. Nid oes raid archebu o flaen llaw.

Bydd cyfle hefyd i ymwelwyr archwilio safle’r Castell a chwrdd â Dreigiau ffyrnig Cadw, a fydd yn dychryn ymwelwyr ar y safle hyd 28 Mai.

Bydd rhaglen o weithgareddau amrywiol yn digwydd yng Nghastell Caerffili  dros benwythnos y Pasg gan gynnwys arddangosfeydd ymladd gyda chlefydau, gwersi saethyddiaeth ac arddangosfeydd arfau canoloesol yn Ffair Ganoloesol y Castell (16 a 17 Ebrill).

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, “Mae 2017 yn Flwyddyn y Chwedlau, ac felly mae dathlu bywydau un o hoff arwyr comedi Cymru o fewn castell enwog yn briodol iawn.

“Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd a chyffrous i ddod â safleoedd hanesyddol Cymru yn fyw.

"Mae’r rhaglen lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd ar gael dros benwythnos y Pasg yn gyfle perffaith i fynd allan a mwynhau’r safleoedd hyn.”

Mae’r ?yl Hud a Fez a Chomedi yn un o 100 o ddigwyddiadau a phrofiadau a gynhelir fel rhan o ymgyrch Chwilio am Chwedlau Cadw a fydd yn dod â hanes dramatig Cymru yn fyw yn ystod 2017 – Blwyddyn y Chwedlau Croeso Cymru.

Caiff ymwelwyr â safleoedd Cadw eu hannog i rannu eu profiadau chwedlonol ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r hashtag #ChwilioAmChwedlau.

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau’r Pasg, ewch i http://www.gov.wales/cadw, chwiliwch am Cadw ar Facebook nei dilynwch @CadwWales ar Twitter.

Rhannu |