Mwy o Newyddion
‘Angen dechrau'r sgwrs ymysg y genhedlaeth ifanc am annibynniaeth’
Mae angen dechrau’r sgwrs ymysg y genhedlaeth ifanc am annibyniaeth – dyma fydd neges cynhadledd mudiad ieuenctid Plaid Ifanc a gynhelir yr wythnos hon.
Bydd y gynhadledd yn cael ei gynnal ym Mharc Singleton ym mMhrifysgol Abertawe ar ddydd Sadwrn 8 Ebrill.
"Mae'n bwysicach nac erioed bod ein cenhedlaeth ni yn trefnu'n gweithgarwch gwleidyddol yn effeithiol ac yn cynnig mudiad bywiog i bobl ifanc wneud hynny," meddai cadeirydd presennol Plaid Ifanc, Emyr Gruffydd.
"Ar adeg pan mae hyd yn oed y syniad o Gymru fel endid gwleidyddol mewn perygl, rhaid i ni fel pobl ifanc sy'n credu ym mhotensial ein cenedl ymladd dros ddyfodol gwahanol i Gymru."
Bydd disgwyl i’r gynhadledd bleidleisio ar gynnig i gefnogi ymgyrch i ddechrau trafodaeth ar annibynniaeth i Gymru ymhlith pobl ifanc ar lawr gwlad.
"Mae angen rhoi llais i bobl ifanc Cymru ar adeg anodd fel hon ac amddiffyn ein buddiannau fel cenedl a dechrau’r sgwrs go iawn," ychwanegodd Emyr.
"Rydyn ni'n credu mai ymladd dros Gymru annibynnol yw'r ffordd i sicrhau bod Cymru'n dod yn wlad lewyrchus."
Bydd trafodaethau eraill yn cynnwys galw i wrthsefyll y dde-eithafol yng Nghymru ac Ewrop, addysg gynhwysol LDHT+, y cyfryngau yng Nghymru a’r posibilrwydd o ddarparu dinasyddiaeth ohebol i’r Undeb Ewropeaidd i ddinasyddion Cymru.
Bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i’r aelodau ail-edrych ar mudiad Plaid Ifanc, pleidleisio ar gynigion a diwygio’r cyfansoddiad.
Bydd cyfle hefyd i aelodaeth y mudiad ethol pwyllgor gwaith cenedlaethol newydd.
Am y tro cyntaf hefyd bydd gweld ethol dau cyd-gadeiryddion yn hytrach nag un cadeirydd – a bydd rhaid i o leiaf un ohonynt fod yn fenyw.
Daw hyn yn sgil y newidiadau cyfansoddiadol a bleidleiswyd arnynt yn y gynhadledd flwyddyn ddiwethaf.
Bydd y gynhadledd hefyd yn gweld gweithredu rhai o’r newidiadau cyfansoddiadol eraill a bleidleiswyd arnynt llynedd gan gynnwys sefydlu cyngor cenedlaethol i aelodau’r mudiad.
Yn ogystal, bydd Adam Price AC yn ymuno â’r gynhadledd yn y prynhawn ar gyfer cyflwyniad ar Nova Cambria a sesiwn cwestiwn ac ateb.
Ceir cyflwyniadau hefyd gan chwaer bleidiau Plaid Ifanc, Oriol Roig a Jan Bosch o JERC yng Nghatalwnia ac Adrian Fuentes Arevalo o Gazte Abertzaleak o Wlad y Basg.
Mae disgwyl i dros hanner cant o aelodau’r mudiad o hyd a lled Cymru fynychu’r gynhadledd yn Abertawe.
Bydd cynhadledd genedlaethol Plaid Ifanc yn Ystafell Seminar 2, Tŷ Fulton yng nghampws Parc Singleton ym Mhrifysgol Abertawe am 10.30 o’r gloch ar ddydd Sadwrn.
Bydd diwrnod o ymgyrchu fel rhan o ymgyrch etholiadau llywodraeth leol yn cael ei gynnal yn Abertawe ar ddydd Sul.