Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Ebrill 2017

Cyfle i deuluoedd a phobl ifanc flasu rhai o brif gopaon Cymru

Bydd Gwasanaeth Awyr Agored yr Urdd yn cydweithio gyda Chlwb Mynydda Cymru i gynnig tair taith gerdded i’r teulu a phobl ifanc ar y 1af o Fai. 

Bydd un yn mynd i gopa’r Wyddfa, un yn mynd i ben Cader Idris ac un i Ben y Fan.

Caiff y teithiau eu trefnu er mwyn annog teuluoedd a phobl ifanc i fanteisio ar rhai o’r teithiau mae Clwb Mynydda Cymru yn eu cynnig.

Pwrpas y Clwb yw i hyrwyddo mynydda drwy gyfrwng y Gymraeg ac i’r perwyl hyn mae’r Clwb wedi cyhoeddi’r gyfrol Copaon Cymru’n ddiweddar.

Ar y 1af o Fai bydd cyfle i deuluoedd a phobl ifanc fwynhau mynydda mewn cwmni hwyliog, diogel a chefnogol trwy ddilyn trywydd  tair taith sydd yn y gyfrol.

Yn ôl Sian Shakespear: “Mae gan Glwb Mynydda Cymru dros 300 o aelodau ledled Cymru ac mae llawer ohonynt yn fynyddwyr profiadol tu hwnt.

"Er bod llawer o’n teithiau’n rhai hir gyda’r angen i fod yn o heini  rydym hefyd yn cynnig rhai byrrach, llai heriol, all apelio at bobl llai profiadol, o bryd i’w gilydd.

"Mae gennym fynyddoedd godidog yma yng Nghymru, ac mae’r boddhad a geir o gyrraedd copa mynydd heb ei ail.

"Rydym yn awyddus i weld mwy o Gymry’n mwynhau mynydda ac pe baent yn dod yn aelodau o’r Clwb, byddwn yn sicrhau parhad y Clwb a mynydda trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae’r Clwb yn ceisio trefnu amrediad o deithiau er mwyn estyn croeso i bawb ac mae’r teithiau hyn gyda’r Urdd wedi eu cynllunio er mwyn rhoi blas i deuluoedd a phobl ifainc ar ddringo rhai o brif copaon Cymru.”

Mae Gwasanaeth Awyr Agored yr Urdd yn cynnig teithiau cerdded ac achrediadau mynydda, ac roedd cydweithio gyda Chlwb Mynydda Cymru i weld yn gam naturiol er mwyn annog diddordeb yn y maes.

Dywedodd Gwydion Tomos, arweinydd y daith ar ran yr Urdd: “Rydym ni yn cydweithio gydag amryw o blant a phobl ifanc o ddydd i ddydd, fel arfer trwy eu hysgol neu sefydliad ieuenctid, ond mae’n braf gallu cynnig gweithgaredd i’r teulu cyfan, a’u hannog i fwynhau y mynyddoedd anhygoel sydd gennym yng Nghymru.”

Bydd y teithiau yn addas i blant 10 oed a hŷn.  Gellir cael mwy o wybodaeth trwy gysylltu gyda Llinos Jones-Williams yng Ngwersyll Glan-llyn – 01678 541 000 neu llinosjw@urdd.org

Rhannu |