Mwy o Newyddion
Gwerthuso siopau Abertawe
Bydd tîm o gwsmeriaid cudd ac aseswyr trefi yn mynd i Abertawe'r mis nesaf i bwyso a mesur pa fath o brofiad o siopa sydd i’w gael yn y dref.
Mae’r Model Lleoliad, wedi ei lunio gan Skillsmart Retail, y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer Manwerthu, yn cael ei ddefnyddio i asesu pa mor dda y mae Abertawe yn cyflawni mewn nifer o wahanol feysydd, o safonau siopau i lendid canol y dref.
Bydd y canlyniadau yn fodd i AGB (Ardal Gwella Busnes) Abertawe gynnig arolwg o siopa yn yr ardal a’r modd y gellir ei wella a’r modd y gellir ei wella i gynnal busnesau lleol a gofynion cwsmeriaid.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan raglen Cynllun Peilot y Gronfa Blaenoriaethau Sector (CPGBS) Llywodraeth Cymru sy’n derbyn rhagor o gymorth yn ei thro gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (CGE). Mae’n derbyn cymorth gan AGB Abertawe hefyd.
Yn rhan o’r prosiect, bydd canol tref Abertawe hefyd yn cael ei harchwilio. Bydd y sylw yn hyn o beth ar weld pa mor rhwydd yw hi i rywun dieithr siopa yn y dref. Bydd popeth, o barcio’r car i arwyddion ar y stryd, yn cael ei asesu - hyd yn oed y manylion lleiaf, fel pa mor rhwydd yw hi i siopwyr groesi’r heolydd. Bydd yr archwilydd hefyd yn asesu lleoliad nodweddion amlwg o bwys fel y Swyddfa Bost a’r llyfrgell.
Rhoddwyd y cyfle hefyd i fanwerthwyr annibynnol yn y dref gael cwsmeriaid cudd hefyd. Bydd ymchwilwyr marchnad wedi’u hyfforddi’n broffesiynol yn ymweld dwywaith â phob siop annibynnol sy’n cymryd rhan i farnu pa mor dda y maent yn perfformio gydag agweddau fel gwasanaeth cwsmer, gwybodaeth o’r cynnyrch ac arddangos yn y ffenestr.
Yn ogystal â hyn, bydd 100 o siopwyr yng nghanol y dref yn cael eu cyfweld i weld pa mor fodlon neu anfodlon ydynt gyda’r gwasanaeth y maent yn ei gael yn siopau’r ddinas.
Dywedodd Russell Greenslade, Prif Weithredwr AGB Abertawe: “Mae’r Model Lleoliad yn ffordd wych i ni ddysgu am brofiadau siopwyr yn Abertawe. Mae dewis rhagorol o fanwerthwyr annibynnol yng nghanol y ddinas y mae preswylwyr ac ymwelwyr yn eu mwynhau. Gan mai ni yw’r unig AGB yng Nghymru, rydyn ni am gefnogi’r manwerthwyr hyn a’u helpu nhw i ffynnu, yn enwedig yn y cyfnod anodd presennol.
"Prin iawn ydi’r cyfle i fanwerthwyr annibynnol gael gwybodaeth gynhwysfawr yn ôl am eu busnesau. Bydd yr arolwg gan y cwsmeriaid cudd yn helpu ein manwerthwyr i roi gwasanaeth o’r safon fydd yn annog cwsmeriaid i ddod yn ôl tro ar ôl tro.”
Mae’r Model Lleoliad eisoes wedi ei ddefnyddio’n llwyddiannus mewn mwy na 80 o leoliadau ym Mhrydain Fawr, o Aberdeen i Gasnewydd.
Dywedodd Anne Seaman, Prif Weithredwr Skillsmart Retail: “Dyma gyfle gwych i’r manwerthwyr annibynnol gael adborth diduedd am eu busnesau a bydd hefyd yn rhoi gwybodaeth ddiweddar i gynghorwyr am y dref a fydd yn gymorth iddyn nhw gynllunio sut i ddatblygu a hyrwyddo’r ardal yn y dyfodol.
“Unwaith y bydd canlyniadau’r Model Lleoliad wedi eu cyhoeddi, bydd llawer o gyfleoedd i fanwerthwyr elwa ar hyfforddiant, er mwyn sicrhau bod modd cyflawni’r gwelliannau sydd wedi eu nodi.”
Cyhoeddir holl ganlyniadau’r arolwg mewn seremoni arbennig dydd Mercher y 30 Tachwedd yng Ngwesty’r Ddraig am 6 o’r gloch yr hwyr.