Mwy o Newyddion
Cyflwyno celc o arteffactau efydd i Amgueddfa Pont-y-pŵl
Arteffactau 3,000 o flynyddoedd oed o’r Oes Efydd fydd y cyntaf o’u bath i gael eu harddangos yn Amgueddfa Pont-y-pŵl, wedi iddynt gael eu cyflwynoedd yn o fel rhan o Ddiwrnod Trysor Torfaen ddydd Gwener, 7 Ebrill.
Yn y celc mae pum arteffact o’r Oes Efydd, gan gynnwys tair bwyell socedog a dau ben picell. Canfuwyd y trysor ym mis Tachwedd 2014 gan Gareth Wileman tra’n defnyddio datgelydd metel yng nghyffiniau Trefddyn, Torfaen a cafodd ei ddyfarnu’n drysor gan Grwner Ei Mawrhydi dros Went yn 2016.
Caiff y celc cyhnaesyddol ei gyflwyno i’r gymuned, ynghyd â modrwy aur addurniadol o ddiwedd y 16eg neu ddechrau’r 17eg ganrif a ganfuwyd yng nghyffiniau Henllys, Torfaen.
Y Gwir Anh. Arglwydd Paul Murphy o Dorfaen, Llywydd Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen, fydd yn agor y digwyddiad ac yn cyflwyno’r siaradwyr gwadd o Amgueddfa Cymru a’r AS lleol Mr Nick Thomas-Symonds.
Dywedodd Mark Lodwick, Cydlynydd Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru): “Mae clec Trefddyn yn ganfyddiad nodedig o’r Oes Efydd Mewn ardal o Gymru lle roedd gwybodaeth am y cyfnod yn brin iawn.
"Diolch i Gareth yn cysylltu’n chwim â’r Cynllun Henebion Cludadwy llwyddwyd i ddatgloddio’r safle’n ofalus a sicrhau ein bod bellach yn deall yn well y cymunedau oedd yn byw yn Nhorfaen 3,000 o flynyddoedd yn ôl.”
Llwyddodd Amgueddfa Pont-y-pŵl i gaffael y celc diolch i nawdd grant project Hel Trysor: Hel Straeon. Diben y project hwn yw caffael gwrthrychau archaeolegol gaiff eu canfod gan aelodau o’r cyhoedd ar gyfer casgliadau amgueddfeydd cyhoeddus ar draws Cymru, a hynny dan nawdd rhaglen Collecting Cultures Cronfa Dreftadaeth y Loteri.
Mae’r project hefyd yn annog cymunedau i ymgysylltu â’u gorffennol ac â threftadaeth archaeolegol gludadwy drwy noddi rhaglen o brojectau archaeoleg cymunedol dan arweiniad staff amgueddfeydd ar draws Cymru.
Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Elusen annibynnol yw Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen, sy’n rhedeg Amgueddfa Pont-y-pŵl.