Mwy o Newyddion
Caniatâd cynllunio ar gyfer Llwybr Dyffryn Tywi
MAE caniatâd cynllunio wedi cael ei roi ar gyfer rhan gyntaf Llwybr Dyffryn Tywi.
Nod y prosiect uchelgeisiol hwn yw creu llwybr cerdded a beicio rhwng Caerfyrddin a Llandeilo, drwy ysblander Dyffryn Tywi.
Lle bynnag y bo'n bosibl, bydd y llwybr yn dilyn trywydd yr hen linell reilffordd o Gaerfyrddin i Landeilo, yn ymyl afon Tywi, a disgwylir y bydd yn rhoi hwb i dwristiaeth a'r economi leol ac yn annog pobl i fod yn egnïol ac i deithio'n gynaliadwy.
Roedd y cais a roddwyd gerbron pwyllgor cynllunio'r Cyngor yn ceisio caniatâd cynllunio llawn ar gyfer cam gorllewinol y llwybr rhwng Felin-wen a Nantgaredig.
Mae'r cynnig ar gyfer llwybr tarmac, anwahanedig, a bydd defnydd ohono'n cael ei rannu. Bydd tua 3 metr o led â llain o 1 metr ar bob ochr, a bydd y darn hwn o'r llwybr tua 4.6 cilometr o hyd.
Pan fydd pob rhan ohono wedi ei chwblhau, bydd y llwybr tua 19.5 cilometr neu 16 milltir o hyd.
Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Ruth Mullen, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd: “Mae hwn yn brosiect blaengar i'r Cyngor ac yn rhan o'n huchelgais i droi Sir Gaerfyrddin yn brif gyrchfan beicio Cymru.
“Yn ogystal â bod yn ddolen gyswllt ddiogel a chynaliadwy rhwng cymunedau gwledig, rydym yn credu y bydd y llwybr o fudd enfawr i'n heconomi twristiaeth hamdden, yn enwedig yr atyniadau lleol, darparwyr llety a safleoedd bwyd a diod ar hyd y llwybr, ac mae llawer o'r rheiny'n bodoli.
“Mae posibiliadau di-ri o ran cyfleoedd i fusnesau lleol, ac mae trafodaethau ar waith eisoes ynghylch sut y gallan nhw gyfrannu."
Amcangyfrifir y gallai'r llwybr ddenu o leiaf 15,000 o ymwelwyr y flwyddyn, gan gynhyrchu rhwng £860,000 a £2 filiwn yn yr economi leol.
Mae'r llwybr yn cael ei ddatblygu fesul cam; mae trafodaethau â pherchnogion tir yn parhau, ac mae ffynonellau cyllid yn cael eu clustnodi wrth i'r cynllun fynd rhagddo. Disgwylir y bydd yn costio rhwng £5 ac £8 miliwn i gyd. Mae cyllid tuag at y prosiect wedi cael ei sicrhau eisoes drwy Gronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru.