Mwy o Newyddion
Mynnu sicrwydd dros ddiogelwch anifeiliaid egsotig
Mae Aelod Cynulliad o Blaid Cymru wedi mynnu sicrwydd gan Lywodraeth Cymru dros ddyfodol anifeiliaid egsotig yng Nghymru.
Mae Aelod y Cabinet Cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Simon Thomas AC wedi mynnu bod Llywodraeth Cymru yn gwneud fwy i sicrhau diogelwch a hawliau i anifeiliaid egsotig yng Nghymru.
Gofynnodd i Lywodraeth Cymru i egluro’r sefyllfa bresennol yn ystod cyfarfod lawn y Cynulliad ar lawr y Siambr yr wythnos yma.
Dywedodd Arweinydd y Tŷ, Jane Hutt bod Deddf Llesiant Anifeiliaid 2006 yn amddiffyn pob anifail a bod cyflwyno rhestr o godau newydd, gan gynnwys anifeiliaid egsotig, am gael ei ystyried yn 2017-18.
Ond, dadleuodd Simon Thomas AC bod angen i Lywodraeth Cymru bod yn fwy rhagweithiol: “Mae’n addawol i glywed bod Llywodraeth Cymru am ail-edrych ar y system gyfredol o lesiant anifeiliaid egsotig, ond mae rhaid i ni fod yn fwy rhagweithiol.
“Y broblem gyda’r sefyllfa bresennol yw ei bod hi’n caniatáu, er enghraifft, i bobl gadw mwncïod mewn tai cyffredin, ac mae hefyd yn caniatáu i syrcasau sy’n perfformio gydag anifeiliaid egsotig byw ymweld â Chymru.
“Rwyf wedi derbyn sawl e-bost gan etholwyr sydd yn pryderu am y sefyllfa gyfredol ac mae rhaid i Lywodraeth Cymru leddfu’r pryderon hyn.
“Rydym wedi bod yn disgwyl ers rhai misoedd, os nad blwyddyn neu ddwy, i Lywodraeth Cymru i weithredu yn y meysydd yma.
"Dyma’r amser i Lywodraeth Llafur Cymru rhoi sicrwydd i ni y bydd camau yn cael eu cymryd nawr gan y Llywodraeth i ddelio gyda phroblemau iechyd a lles anifeiliaid egsotig yng Nghymru."