Mwy o Newyddion
Gwasanaeth cyfeiliant ar wefan yr Eisteddfod
GYDAG ychydig yn llai na mis i fynd cyn y dyddiad cau ar gyfer cystadlaethau llwyfan, mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi lansio gwasanaeth newydd sy’n sicr o fod o gymorth i gystadleuwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer eu rhagbrofion eleni.
O hyn ymlaen, bydd modd lawr lwytho neu wrando ar gyfeiliant piano ar gyfer pob un o’r darnau prawf sydd yn Rhestr Testunau Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn. Mae’r ffeiliau i’w gweld ar dudalen gofrestru a gwybodaeth pob un o’r cystadlaethau perthnasol.
Y cyfeilydd a’r cerddor amryddawn a phrofiadol, Annette Bryn Parri sy’n gyfrifol am y gwaith, ac mae hi’n credu’i fod yn mynd i fod yn adnodd defnyddiol iawn i gystadleuwyr eleni.
Meddai: “Byddaf yn derbyn galwadau ffôn ac e-byst niferus bob blwyddyn gan gystadleuwyr sy’n chwilio am gyfle i ymarfer gyda chyfeilydd.
“Ac wrth gwrs, nid pawb sy’n adnabod neu’n byw’n agos at rywun sy’n gallu helpu, ac nid bob athro sy’n teimlo’n gyfforddus gyda chyfeiliannau technegol anodd.
“Felly dyma feddwl am ffordd o gynnig cymorth a chefnogaeth i gystadleuwyr eleni drwy recordio’r darnau prawf llais i gyd er mwyn i’r Eisteddfod eu cynnwys ar eu gwefan, ac roedd 130 o ddarnau i’w recordio a’u paratoi.
“O’r diwedd mae’r gwaith wedi’i gwblhau ac yn fyw ar-lein, yn barod i’w ddefnyddio.
“Mae’n bwysig nodi mai canllaw ar gyfer ymarfer yw’r rhain, ac fe fydd hyn yn helpu unigolion i benderfynu a yw cân yn eu siwtio ai peidio.
“Rwyf hefyd wedi dewis amseriad arafach i rai caneuon gan obeithio y bydd hyn yn hwyluso’r ymgeiswyr wrth ymarfer.
“Y bwriad yn syml yw cynnig cymorth a gwasanaeth i gystadleuwyr yr Eisteddfod, yn y gobaith y bydd yn annog rhagor i fynd ati i gymryd rhan yn y cystadlaethau lleisiol eleni ac i’r dyfodol.
“Arbrawf oedd y prosiect eleni, ac rwy’n gobeithio y byddwn yn cael adborth gan y cystadleuwyr.
“Hefyd, bydd y darnau’n gallu cael eu cadw ar wefan yr Eisteddfod, er mwyn datblygu llyfrgell o ddarnau cyfeiliant ar gyfer y dyfodol.”
Ychwanegodd Elen Elis, trefnydd yr Eisteddfod: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Annette am ddod atom gyda’r syniad ac am ei holl waith wrth baratoi’r darnau.
“Bydd hwn yn adnodd hynod werthfawr i’n cystadleuwyr ni ac i gantorion yn y dyfodol.
“Mae chwilio am gyfeilydd ar gyfer ymarferion yn gallu bod yn waith trafferthus a drud.
“Mae’r adnodd yma’n galluogi cantorion i ymarfer unrhyw bryd heb orfod meddwl am drefnu ymlaen llaw.
“Gellir lawr lwytho’r ffeiliau ar gyfrifiadur neu ffôn felly mae’r system yn hygyrch ac yn hynod ddefnyddiol.
“Gyda phenwythnos ‘Cer i Greu’ yr wythnos hon a phobl yn cael eu hannog i fynd ati i gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, mae’n braf gallu cyhoeddi’r cyfeiliannau hyn ar ein gwefan er mwyn rhoi cyfle i fwy o gantorion nag erioed i gael y cyfle i baratoi ar gyfer ein cystadlaethau lleisiol.
“Mae cofrestru ar-lein ar gyfer cystadlaethau llwyfan yn digwydd am yr eildro eleni, a braf yw gallu ychwanegu at y gwasanaeth gyda’r cyfeiliannau.
“Gobeithio y byddwn yn cael adborth da ac y bydd hwn yn wasanaeth y gallwn barhau i’w gynnig yn y dyfodol.”
Mae Annette yn fodlon paratoi recordiad o unrhyw gân ar gyfer cystadleuwyr a dylai unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu’n uniongyrchol â hi, annetteparri@btinternet.com.
1 Mai yw’r dyddiad cau i gofrestru ar gyfer cystadlaethau llwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.