Mwy o Newyddion
Partneriaeth i sefydlu archif Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru â Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi cytundeb parteriaeth er mwyn diogelu cofnodion y Cynulliad i’r dyfodol.
Bydd y ddau gorff yn dod at ei gilydd i lunio strategaeth archifau ar gyfer y Cynulliad ac yn ystod y chwe mis nesaf. Trwy’r bartneriaeth, bydd archif a chofnodion hanesyddol hynod bwysig ac arwyddocaol y Cynulliad yn dechrau cael ei symud i’r Llyfrgell Genedlaethol.
Bydd y cofnodion yn cynnwys deddfwriaeth, adroddiadau pwyllgorau, datganiadau Llywodraeth Cymru a’r Trafodion – sef yr hyn sy’n cyfateb yn y Cynulliad i Hansard – a byddant yn cael eu harchifo gan y Llyfrgell Genedlaethol.
Bydd y prosiect yn golygu y bydd copiau caled ac electroneg o ddogfennau ar gael i’r cyhoedd gan ategu ymrwymiad y Cynulliad i fod yn agored a bod yn dryloyw.
Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru: “Rwy’n ymrwymedig i ddemocratiaeth tryloyw ac yr wyf eisiau sicrhau fod ein cofnodion seneddol yn hygyrch a hawdd ei chwilio gan ddefnyddwyr heddiw ac ymchwilwyr y dyfodol, a hynny er mwyn ein helpu i fedru dweud stori ein corff deddfwriaethol.
“Mae’r Cynulliad yn ffodus i gael Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel partner sydd mewn sefyllfa ddelfrydol i’n cynorthwyo gyda diogelu’r archif pwysig ac unigryw hwn i’r dyfodol.”
Ychwanegodd Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “Bydd derbyn archif a chofnodion ein Cynulliad Cenedlaethol yn ychwanegiadau pwysig i’n casgliadau cenedlaethol. Rydym yn ddiolchgar i Lywydd y Cynulliad am iddi gydnabod pwysigrwydd yr archif hwn a’i pharodrwydd i drosglwyddo’r cofnodion i ofal y Llyfrgell Genedlaethol.
“Ymhen amser bydd haneswyr cyfansoddiadol y dyfodol yn profi gwerth yr archif yma wrth iddyn nhw ymchwilio i flynyddoedd cynnar ein Cynulliad.”
Llun: Elin Jones