Mwy o Newyddion
Aduniad y Dreigiau yn tanio’r dychymyg
MAE Dreigiau anhygoel Cadw, a welwyd yn ‘cwtsio’n’ gariadus ger Castell Caernarfon Ddydd Gŵyl Dewi, wedi dod ynghyd unwaith eto, a hynny yng nghastell mwyaf Cymru – Caerffili.
Bydd yr ymlusgiaid rhamantus – Dewi a Dwynwen, wedi’u henwi ar ôl y seintiau Cymreig – i’w gweld gyda’i gilydd yn hapus braf yng Nghastell Caerffili yn ystod Ebrill a Mai cyn i Dwynwen gychwyn ar ei thaith haf epig ar hyd a lled safleoedd hanesyddol Cymru.
Mae cyhoeddiad y daith yn rhan o ymgyrch Chwilio am Chwedlau gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru (Cadw), fydd yn dod â straeon dramatig Cymru’n fyw yn ystod 2017, Blwyddyn y Chwedlau Croeso Cymru.
Ar ôl treulio mis Mawrth ar wahân – Dewi yng Nghastell Harlech a Dwynwen yng Nghastell Caernarfon – daw aduniad y Dreigiau yng Nghaerffili jyst mewn pryd ar gyfer cyfnod prysur y Pasg, cyfnod a welodd dros 90,000 o ymwelwyr â’r safle yn ystod mis Mawrth yn unig y llynedd.
Mae digwyddiadau sydd i ddod yn cynnwys helfeydd wyau Pasg a Phenwythnos Canoloesol y Pasg, (Ebrill 16-17), fydd yn rhoi cipolwg i ymwelwyr o orffennol canoloesol y safle, gyda dychweliad gwerinwyr, marchogion ac uchelwyr o oes aur y castell.
Bydd y bwystfilod cariadus yn gwahanu ar 28 Mai, pan fydd Dwynwen yn gadael ei chariad yng Nghastell Caerffili ac yn goresgyn saith o gestyll Cymru ar ei ffordd adref i Gastell Caernarfon.
Bydd taith Dwynwen – gyda’i chen porffor disglair a’i llygaid emrallt sglein – yn dechrau yn ne ddwyrain Cymru, gydag ymweliadau â Chastell Cas-gwent a Chastell Rhaglan fis Mehefin.
Bydd yr anghenfil chwedlonol hefyd yn goresgyn trefi yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, wrth iddi ymweld Llys Tre-tŵr a Chastell Cydweli fis Mehefin a Gorffennaf.
Ac yna bydd y bwystfil hardd yn trechu Cestyll Harlech a Biwmares fis Awst cyn dychwelyd i’w gwâl yng Nghaernarfon fis Medi.
Bydd taith haf Dwynwen yn cyd-fynd â rhagor na 100 o ddigwyddiadau cyffrous ar safleoedd hanesyddol Cymru’r haf hwn, o ail-greu brwydrau epig i ffeiriau canoloesol prysur a chystadlaethau saethyddiaeth cyffrous.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: “Denodd Dewi record o 120,000 o ymwelwyr yn ystod ei daith o gwmpas wyth o gestyll Cymru’r llynedd a drwy gyflwyno Dwynwen rydym yn gobeithio y bydd y llwyddiant hwnnw’n tyfu.
“Mae Cymru yn enwog am ei storïau epig, o chwedlau’r Mabinogi i straeon y Ddraig Goch, a bydd ymgyrch Chwilio am Chwedlau Cadw yn dod â nhw’n fyw yn ystod 2017 Blwyddyn y Chwedlau.
“Rydym yn hyderus y bydd presenoldeb y Dreigiau, ynghyd â rhaglen wefreiddiol o ddigwyddiadau a phrofiadau trochi ar safleoedd Cadw, yn help i sbarduno diddordeb o’r newydd yn nhreftadaeth Cymru ac yn annog pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd i ymweld â’r henebion yr haf hwn.”
Wild Creations, criw o 16 o gynllunwyr setiau yng Nghaerdydd, ddaeth â Dreigiau Cadw’n fyw. Cafodd y creaduriaid enfawr, sydd, gyda’i gilydd yn pwyso dwy dunnell, eu cerflunio a’u mowldio cyn cael eu hadeiladu allan o wydr ffibr.
Bydd cyfle i ymwelwyr â Chastell Caerffili gwrdd â Dewi a Dwynwen drwy dalu’r tâl mynediad arferol o 3 Ebrill - 28 Mai.
Ar ôl y cyfnod hwn bydd ymwelwyr â Chastell Caerffili yn dal yn gallu cwrdd â Dewi’r ddraig ffyrnig drwy wanwyn a haf 2017.
Yna bydd Dwynwen i’w gweld, drwy dalu’r tâl mynediad arferol, yng Nghastell Cas-gwent o 29 Mai - 11 Mehefin, Castell Rhaglan o 12 Mehefin - 25 Mehefin, Llys Tre-tŵr o 27 Mehefin - 9 Gorffennaf a Chastell Cydweli o 11 Gorffennaf - 30 Gorffennaf.
Bydd yn ymweld â safleoedd yng ngogledd Cymru, Castell Harlech a Chastell Biwmares, fis Awst.
Mae dilynwyr y dreigiau ar safleoedd Cadw yn cael eu hannog i rannu eu profiadau chwedlonol ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r hashnod #ChwilioamChwedlau.
Am ragor o wybodaeth am ymgyrch Chwilio am Chwedlau Cadw a gweld ble fydd y Dreigiau nesaf, ewch i www.cadw.gov.wales/chwilioamchwedlau