Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Ebrill 2017

45 o fudiadau yn derbyn grant Ras yr Iaith i hyrwyddo'r Gymraeg

Mae 45 o sefydliadau cymunedol dros Gymru wedi derbyn grant er mwyn cryfhau’r Gymraeg yn eu hardaloedd diolch i’r arian a godwyd yn Ras yr Iaith yn 2016.

Cafodd ail Ras yr Iaith ei chynnal rhwng 6 – 8 Gorffennaf 2016 gan godi dros £14,000 er mwyn cryfhau’r Gymraeg yn ein cymunedau.

Buodd cannoedd o bobl yn rhedeg drwy 25 tref a phentref rhwng Bangor a Llandeilo gan uno’n gwlad gyda Baton yr Iaith.

Yn codi proffil a hyder yr iaith Gymraeg, hyrwyddo iechyd corfforol a chryfhau cymunedau, mae Ras yr Iaith yn cael ei chynnal pob dwy flynedd.

Yn ychwanegol i godi proffil yr iaith drwy gynnal ras o’r fath, mae Ras yr Iaith yn rhannu unrhyw elw a wnaed ar ffurf grantiau hyd at £750 i grwpiau neu fentrau sy’n hybu neu ddefnyddio’r iaith.

Dywed Owain Gruffydd, cadeirydd Mentrau Iaith Cymru a oedd yn rhoi cefnogaeth ymarferol i Ras yr Iaith: “Roeddem yn falch iawn fel Mentrau Iaith Cymru i gefnogi a threfnu Ras yr Iaith ac yn hapus nawr o allu rhannu’r holl arian yma i grwpiau a mudiadau dros Gymru.

"O wyliau a digwyddiadau i glybiau chwaraeon a chorau – mae pob math o grwpiau wedi gallu elwa o’r ras a gobeithiwn yn fawr bydd yr arian yma yn eu helpu i gryfhau a chynyddu'r defnydd o’r Gymraeg yn eu cymunedau.”

Dywed Siôn Jobbins, un o sylfaenwyr y ras: “Roedd Ras yr Iaith yn gyfle i bobl ddangos eu bod yn cefnogi’r Gymraeg.

"Cawsom ein hysbrydoli gan rasys tebyg yng Ngwlad y Basg, Llydaw ac Iwerddon ac mae’n braf gweld bod Ras yr Iaith wedi gallu digwydd am yr ail dro yn 2016 a bod 45 grŵp wedi elwa ohoni.”

Rhannu |