Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Ebrill 2017

Cymraes yn cyrraedd rhestr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas

CYHOEDDWYD  rhestr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe. Sefydlwyd y wobr yn 2006, ac mae’n cael ei ystyried yn un o’r anrhydeddau sydd â’r bri mwyaf i ysgrifenwyr ifanc, gan gynnig gwobr ariannol o £30,000.

Mae Llyfr y Flwyddyn Waterstones 2016, The Essex Serpent gan Sarah Perry, yn ymddangos ar y rhestr, ochr yn ochr â dwy nofel: Pigeon gan y Gymraes Alys Conran, a The Story of  a Brief Marriage gan Anuk Arudpragasam o Sri Lanka.

Rhyddhawyd Pigeon, nofel gyntaf Alys Conran, sy’n ddarlithydd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor, y llynedd. Cafodd Pijin, y fersiwn Gymraeg o’r nofel, ei haddasu gan Sian Northey. Cyhoeddir y ddwy nofel gan Parthian.

Mae casgliad o gerddi Cain gan Luke Kennard, hefyd yn ymddangos ar y rhestr, ynghyd â dau gasgliad o straeon byrion; Dog Run Moon: Stories gan Callan Wink, a The High Places gan Fiona McFarlane.

Caiff y wobr o £30,000 ei dyfarnu i’r darn gorau o waith wedi’i gyhoeddi’n Saesneg, sydd wedi’i ysgrifennu gan awdur 39 mlwydd oed neu iau. Bwriad y wobr yw cydnabod a chefnogi awduron mawr y dyfodol yn ogystal â chydnabod etifeddiaeth Dylan Thomas, a ysgrifennodd y rhan fwyaf o’i waith gorau tra yn ei ugeiniau.

Y rhestr fer gyfan:
• The Story of a Brief Marriage - Anuk Arudpragasm – Sri Lanka (Granta)
• Pigeon  - Alys Conran - Cymru (Parthian)
• Cain - Luke Kennard - Lloegr (Penned in the Margins)
• The High Places  - Fiona McFarlane - Awstralia (Farrar, Straus & Giroux)
• The Essex Serpent - Sarah Perry - Awstralia (Serpent’s Tail)
• Dog Run Moon: Stories  - Callan Wink - UDA (Granta)

Max Porter enillodd y wobr y llynedd, a hynny am ei lyfr Grief is the Thing with Feathers. Aeth y llyfr ymlaen i gipio Gwobr Ysgrifennydd Ifanc The Sunday Times.

Meddai cadeirydd y panel beirniadu, yr Athro Dai Smith: “O’r rhestr hir drawiadol o 12 o ddarnau llenyddol o bob cwr o’r byd, penderfynodd y beirniaid, ar ôl trafodaeth hir, ar chwe darn o waith syfrdanol o ran eu hansawdd a’u gwreiddioldeb.

“Mae gennym nofel fer o Sri Lanka, dau gasgliad o straeon byrion, un o Awstralia a’r llall o’r Unol Daleithiau, casgliad o gerddi a nofel gan awduron o Loegr, a nofel gyntaf gan awdures o Gymru.

“Maent i gyd yn enillwyr ynddynt hwy eu hunain, ond bydd yr enillydd, a fydd yn derbyn y wobr ar 10 Mai, yn sicrhau unwaith eto, bod Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe yn rhyfeddu ac yn difyrru darllenwyr ledled y byd.”

Mae’r panel beirniadu eleni hefyd yn cynnwys: Kurt Heinzelman (bardd ac ysgolhaig); Alison Hindell (Pennaeth Drama Sain DU i’r BBC); yr Athro Sarah Moss (nofelydd ac ysgolhaig), a Prajwal Parajuly (awdur).

Datgelir yr enillydd yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe ar ddydd Mercher 10 Mai. 

Rhannu |