Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Ebrill 2017

Canolfan Ddosbarthu ranbarthol newydd Aldi yng Nghymru yn agor gan greu 422 o swyddi

Mae canolfan ddosbarthu ranbarthol newydd Aldi, sy'n werth £59.5m, wedi agor.

Mae eisoes wedi creu 422 o swyddi newydd gan arwain at amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa, a'r bwriad yw creu 400 o swyddi eraill ledled y De wrth i Aldi gynllunio i agor archfarchnadoedd newydd.

Croesawyd y newyddion gan Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates wrth iddo lansio canolfan ddosbarthu newydd a swyddfeydd rhanbarthol y cwmni, sy'n 40,000 metr sgwâr, ym Mharc Busnes Capital yng Ngwynllŵg.

Cefnogwyd y datblygiad mawr hwn, a fydd yn ganolbwynt i bortffolio o siopau Aldi ledled De Cymru a De-orllewin Lloegr, gan £4.5m o gyllid busnes gan Lywodraeth Cymru.

Wrth siarad yn yr agoriad, dywedodd Ken Skates fod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi cynlluniau Aldi i ehangu ledled y De gan dargedu Caerdydd, Abertawe a'r Gorllewin a chreu nifer sylweddol o swyddi ychwanegol a chyfleoedd gyrfa dros y pedair blynedd nesaf.

Disgrifiodd Ken Skates y sector manwerthu fel un o'r sectorau pwysicaf yng Nghymru, o ran niferoedd busnesau a nifer y bobl sy'n gweithio yn y sector, yn ogystal â'r amrywiaeth o gyfleoedd swyddi sy'n cael eu darparu gan y sector.

Dywedodd: "Mae'r sector manwerthu yn sector lle mae pobl ifanc a phobl brofiadol yn cael eu gwerthfawrogi i'r un graddau, a lle gall pob un ganfod ei le naill ai'n cynnal y busnes neu'n ei ddatblygu.

"Mae archfarchnadoedd, ynghyd â'u hamryfal strwythurau cymorth gweithredol, yn cynnig cyfleoedd gwahanol. Maen nhw'n amrywio o'r swydd gyntaf ar ddydd Sadwrn i bobl ifanc i yrfaoedd llawn i'r rheini sydd am ymgymryd â rolau goruchwylio a rheoli.

"I lawer o bobl ifanc, mae'n rhan o'r llwybr at fyd gwaith ac yn aml, gall teuluoedd cyfan gael eu cyflogi gan yr un busnes.

"Rwy' hefyd yn gwybod bod Aldi yn cynnig llwybrau gyrfa i raddedigion ac o gofio ei fod yn gweithredu ar lwyfan byd-eang ehangach, mae'r cyfle i ddatblygu profiad rhyngwladol hanfodol o weithio yn rhai o farchnadoedd mwya'r byd yn cael ei groesawu'n fawr."

Dywedodd fod agor y ganolfan yn arwydd o hyder yn economi Cymru sydd eisoes wedi creu cannoedd o swyddi yn ogystal â chyfleoedd i gynhyrchwyr bwyd Cymru.

Dywedodd Dan Oakenfull, Rheolwr Gyfarwyddwr Canolfan Ddosbarthu Ranbarthol Caerdydd: “Mae De Cymru a De-orllewin Lloegr yn parhau i fod yn ardaloedd o dwf sylweddol i ni.

"Bydd y ganolfan ddosbarthu newydd yn ein helpu i ehangu ar unwaith ac yn y dyfodol ar draws y rhanbarthau.

“Mae’r ganolfan wedi creu dros 420 o swydd ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghaerdydd a’r ardaloedd cyfagos.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau Cwrdd â'r Prynwr gydag Aldi a bydd yn parhau i drafod cyfleoedd pellach i gyflenwyr Cymru.

Fis diwethaf, cyhoeddodd Aldi ei fod wedi cyflwyno pum cynnyrch cig oen newydd o Gymru i'w siopau yn y Gogledd.

Mae'n dilyn menter debyg yn y De y llynedd ac mae'n golygu y bydd pob un o 38 o siopau Aldi yng Nghymru bellach yn gwerthu amrywiaeth helaeth o gynnyrch cig oen Cymru drwy'r flwyddyn.

Mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod y safle newydd yn cael ei leoli yng Nghymru yn hytrach nag ar y safleoedd eraill yn Lloegr oedd dan ystyriaeth.

Rhoddwyd yr arian i dalu am gostau datblygu tir anghyffredin o fwy na £5m i baratoi'r safle ar gyfer y gwaith adeiladu.

Roedd amodau annisgwyl y tir a chyfyngiadau hydrolegol ac ecolegol yn golygu na fyddai'r gwaith o adeiladu'r ganolfan newydd wedi bod yn hyfyw heb gymorth ariannol. 

Llun: Mae De Cymru a De-orllewin Lloegr yn parhau i fod yn ardaloedd o dwf sylweddol i Aldi
 

Rhannu |